Ar gyfer y pensiwn yr ydych yn ei gronni o’r 1af o Ebrill 2014, ni fydd eich oed ymddeol arferol wedi ei osod yn 65, ond yn hytrach bydd yr un oed a’ch oed pensiwn y wladwriaeth (ond ni all fod yn is na 65). Mae’n bosib gwirio’r dyddiad hwn dwy ymweld â gwefan y Wladwriaeth yma (Saesneg yn unig).
Fodd bynnag, mae’n bosib i chi ymddeol yn gynnar a derbyn eich pensiwn o 55 ymlaen heb ganiatâd eich cyflogwr. Fel arall, os byddwch yn penderfynu gweithio y tu hwnt i’ch oed pensiwn y wladwriaeth, gallwch barhau i weithio a thalu i mewn i’r cynllun nes y diwrnod cyn eich pen-blwydd yn 75.
Gallwch dderbyn eich buddion pensiwn beth bynnag yw’ch oed os oes rhaid i chi ymddeol ar sail iechyd.
Am wybodaeth bellach ar y gwahanol fathau o ymddeoliad, ac unrhyw gyfyngiadau a allai fod yn berthnasol, cliciwch ar y ddolen isod: