Fel Cynghorwr, nid yw’n bosib trosglwyddo hawliau pensiwn blaenorol i mewn i’r CPLlL o unrhyw gynllun Pensiwn arall nac o Gronfa CPLlL arall.
Os oes gennych fuddion gohiriedig mewn perthynas â aelodaeth fel Cynghorwr o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd, mae gennych yr opsiwn o’i gyfuno â’ch aelodaeth gyfredol.
Bydd rhaid i gais i gyfuno eich buddion gael ei gyflwyno o fewn 12 mis o ail ymuno â’r cynllun. Cysylltwch â ni cyn gynted ac sy’n bosib.
Nid yw cyfuno’ch hawliau pensiwn yn benderfyniad sy’n hawdd i’w wneud pob tro, ac efallai y dymunech gael cymorth gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.