Cyflogwyr yn y Gronfa

Mae tri math o awdurdod cyflogi o fewn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:

  • Cyrff ar yr atodlen: Awdurdodau Lleol a chyrff tebyg ble mae gan eu staff hawl awtomatig i fod yn aelodau o’r Gronfa.

  • Cyrff a dynodir: Cynghorau dinas, tref neu blwyf. Mae ganddynt yr hawl i benderfynu os caiff eu gweithwyr ymuno â’r CPLlL ac i fabwysiadu’r penderfyniad yn unol â hynny.

  • Cyrff a ganiateir: Sefydliadau eraill sy’n cymryd rhan yn y gronfa dan gytundeb mynediad rhwng y gronfa a’r sefydliad perthnasol. Mae’r cyrff a ganiateir yn cynnwys cyrff gwirfoddol, elusennol a thebyg neu gontractwyr preifat sy’n ymgymryd â swyddogaeth awdurdod lleol wedi i’r swyddogaeth gael ei allanoli i’r sector preifat.

Y cyflogwyr presennol sydd yn rhan o Gronfa Bensiwn Gwynedd yw:

Cyrff ar yr atodlen

Cyngor Gwynedd 
Parc Cenedlaethol Eryri
Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy  
Ysgol Bryn Eilian
Cyngor Sir Ynys Môn 
Ysgol Emrys Ap Iwan
Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru 
Ysgol Pen y Bryn
Grŵp Llandrillo Menai 
Ysgol Uwchradd Eirias

Cyrff a dynodir

Cyngor Cymunedol Llanllyfni
Cyngor Tref Ffestiniog
Cyngor Dinas Bangor 
Cyngor Tref Llandudno
Cyngor Tref Abergele 
Cyngor Tref Llangefni
Cyngor Tref Bae Colwyn  
Cyngor Tref Porthaethwy
Cyngor Tref Biwmares  
Cyngor Tref Towyn a Bae Kinmel
Cyngor Tref Caergybi 
Cyngor Tref Tywyn
Cyngor Tref Caernarfon
Cyngor Tref Conwy
Cyngor Cymunedol Trefriw  

Cyrff a ganiateir

Coleg Harlech WEA 
Cymdeithas y Deillion Gogledd Cymru
CAIS 
Gwasanaeth Gwirfoddol Conwy
Canolfan Cynghori Conwy  
Gyrfa Cymru Gogledd Gorllewin
Canolfan Cynghori Ynys Môn 
Mantell Gwynedd
Cwmni Cynnal 
Medrwn Mon
Cwmni’r Fran Wen 
Menter Mon
Cyd-Bwyllgor Claddu Caergybi 
Cartrefi Conwy
Cartrefi Cymunedol Gwynedd 

Cyrff a ganiateir wedi eu trosglwyddo

Caterlink
ABM Catering
Superclean