Trefn Apelio
Os yw aelod yn anghytuno gyda phenderfyniad a wnaethpwyd gan eu Cyflogwr neu Gronfa Pensiwn mae proses gwyno dau gam a adnabyddir fel Gweithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol (GDAM) yn bodoli. Gobeithir yn y Gronfa Bensiwn Gwynedd y gall unrhyw gwyn yn cael eu trin mewn modd effeithlon heb orfod troi at y GDAM.
Cam 1: Cwyn Ffurfiol
Dylai’r aelod wneud eu cwyn yn ysgrifenedig i’r sawl y meant yn ystyried i fod ar fai, unai eu Cyflogwr neu'r Gronfa Bensiwn. Rhaid gwneud hyn o fewn 6 mis i'r broblem godi. Bydd ffeithiau'r achos yn cael eu harchwilio, ynghyd â'r rheolau’r cynllun a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch y gŵyn. Rhaid i'r ateb cael ei wneud o fewn 2 fis neu dylid rhoi resymau am yr oedi cyn ateb.
Ar gyfer cwynion yn erbyn y Cyflogwr rhaid i'r aelod ysgrifennu'n uniongyrchol i'r Cyflogwr.
Ar gyfer cwynion yn erbyn y Gronfa Bensiwn, dylai'r aelod ysgrifennu at:
Rheolwr Pensiynau
Adain Bensiynau
Swyddfa’r Cyngor
Cyngor Gwynedd
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH
Cam 2: Apêl Pellach
Os yw’r aelod yn anfodlon a phenderfyniad Cam 1, mae ganddynt 6 mis i apelio yng Ngham 2. Mae'r cam hwn yn cael ei ddyfarnu gan swyddog a benodir gan y Gronfa Bensiwn. Unwaith eto, rhaid i'r apêl gael ei wneud yn ysgrifenedig a dylid anfon copi o’r penderfyniad o Gam 1 gyda’r apêl.
Gall aelod hefyd fynd yn syth i Gam 2 os:
- Ydynt wedi cwblhau Cam 1 a heb dderbyn ateb oddi fewn 3 mis o wneud yr apêl; neu
- Ydynt wedi cwblhau Cam 1 ond heb dderbyn penderfyniad oddi fewn mis i’r dyddiad y dwedwyd wrthynt y byddent yn ei dderbyn.
Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi penodi Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol fel eu swyddog a benodwyd o dan Gam 2. Dylai pob cwyn cael eu hanfon i’r cyfeiriad canlynol:
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol
Cyngor Gwynedd
Swyddfa’r Cyngor
CAERNARFON
Gwynedd
LL55 1SH
Unwaith eto, rhaid i ateb cael ei wneud o fewn 2 fis o dderbyn y cwyn.
Y Gwasanaeth Cynghori ar Bensiynau (GCP)
Os nad yw'r broblem wedi cael ei datrys y cam nesaf ar gyfer yr aelod yw gofyn am help gan GCP. Mae’r GCP ar gael ar gyfer cymorth mewn cysylltiad ag unrhyw ymholiad pensiwn.
Gellir cysylltu â hwy drwy ysgrifennu at:
11 Belgrave Road
Llundain
SW1V 1RB
Ffôn: 0845 601 2923
Ombwdsman Pensiynau
Gall yr Ombwdsman Pensiynau ymchwilio a phenderfynu unrhyw gwyn neu anghydfod ffaith neu ddeddf mewn perthynas ag unrhyw gynllun pensiwn galwedigaethol. Fel arfer mae’n rhaid i gynlluniau Pensiynau ac aelodau cyd fynd a phenderfyniadau'r Ombwdsman oni bai i’r penderfyniad gael ei wyrdroi gan lys. Fel arfer bydd swyddfa’r Ombwdsman yn disgwyl i aelodau fod wedi mynd trwy’r ddau gam o GDAM ac wedi gofyn am Gymorth gan GCP.
Rhaid i gwynion i'r Ombwdsmon cael eu gwneud o fewn 3 blynedd i'r digwyddiad y mae’r gŵyn yn ymwneud â neu o fewn 3 blynedd i’r aelod ddod yn ymwybodol o'r broblem.
Manylion cyswllt yr Ombwdsmon yw:
11 Belgrave Road
Llundain
SW1V 1RB
Ffôn: 020 7630 2200
Ffacs: 020 7821 0065
E-bost: enquiries@pensions-ombudsman.org.uk
Safle Wê: www.pensions-ombudsman.org.uk
Y Rheolydd Pensiynau
Y Rheolydd Pensiynau yw gwarchotgi Pensiynau sy’n sicrhau bod cynlluniau yn cael eu rhedeg yn gywir, ac mae’n warchod aelodau rhag twill. Os yw aelod yn poeni am y cynllun yna gallant adrodd i’r Rheolydd Pensiynau.
Manylion cyswllt y Rheolydd yw:
Napier House
Trafalgar Place
Brighton
BN1 4DW
Ffôn: 0870 606 3636