Fel aelod actif o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwch yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Bydd y cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth y byddwch yn dalu.
Bydd y raddfa y byddwch yn dalu yn dibynnu ar eich cyflog. Mae’r bandiau cyflog o 1af o Ebrill 2020 wedi’u hamlinellu isod. Mi fydd yr amrediad cyflog ar gyfer pob band cyfraniadau yn newid bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw:
Band Gwir dâl pensiynadwy Cyfraniad
1 £0 - £14,600 5.5%
2 £14,601 - £22,800 5.8%
3 £22,801 - £37,100 6.5%
4 £37,101 - £46,900 6.8%
5 £46,901 - £65,600 8.5%
6 £65,601 - £93,000 9.9%
7 £93,001 - £109,500 10.5%
8 £109,501 - £164,200 11.4%
9 £164,201 + 12.5%
Mae’n ddyletswydd ar eich cyflogwr i roi gwybod i chi pa fand cyfrannu yr ydych yn ei dalu. Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gosod yn y band anghywir, cysylltwch â’ch cyflogwr.
Cyfraniadau gan y cyflogwr
Mae eich cyflogwr yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiant gan yr Actiwari yn cael ei gwblhau er mwyn cyfrifo faint ddylai eich cyflogwr fod yn ei gyfrannu at y cynllun.