Olrhain Cyfeiriadau

Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio i ailgysylltu â rhai o’n haelodau yr ydym wedi colli cysylltiad â nhw. Fel rhan o’r ymdrech hon, rydym wedi cynnal ymarfer olrhain i ddiweddaru ein cofnodion. 

Byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth gadarnhau eich manylion fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion. Er mwyn eich sicrhau, dyma rai ffyrdd i gadarnhau dilysrwydd yr e-bost hwn:

  • Mae croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol i gadarnhau bod hwn yn e-bost dilys.
  • Gallwch ymweld â ni yn ein swyddfa (Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE)

Os ydych yn teimlo’n gyfforddus yn symud ymlaen, byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau eich manylion cyswllt drwy gofrestru ar ein system hunanwasanaeth: Fy Mhensiwn Ar-lein. Ar ôl cofrestru, cliciwch yma i gael mynd yn syth i ddiweddaru eich manylion cyswllt.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen rhagor o gymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.