Faint Ydwyf yn Talu?

Fel aelod actif o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rydych yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Mae'r cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth y byddwch yn dalu.

Mae'r raddfa cyfrannu yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar eich cyflog. Mae’r bandiau cyflog o 1af o Ebrill 2026 wedi’u hamlinellu isod. Mi fydd yr amrediad cyflog ar gyfer pob band cyfraniadau yn newid bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw:

Band

Gwir Dal Cyflogaeth

Prif Adran

Adran 50/50

1

Hyd at £18,400

5.50%

2.75%

2

£18,401 i £29,000

5.80%

2.90%

3

£29,001 i £47,300

6.50%

3.25%

4

£47,301 i £59,800

6.80%

3.40%

5

£59,801 i £84,000

8.50%

4.25%

6

£84,001 i £119,100

9.90%

4.95%

7

£119,101 i £140,400

10.50%

5.25%

8

£140,401 i £210,700

11.40%

5.70%

9

£210,701 neu fwy

12.50%

6.25%

Mae’n ddyletswydd ar eich cyflogwr i roi gwybod i chi pa fand cyfrannu yr ydych yn ei dalu. Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gosod yn y band anghywir, cysylltwch â’ch cyflogwr.

Cyfraniadau gan y cyflogwr

Mae eich cyflogwr yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiant gan yr Actiwari yn cael ei gwblhau er mwyn cyfrifo faint ddylai eich cyflogwr fod yn ei gyfrannu at y cynllun. Gallwch ganfod faint mae eich cyflogwr yn ei dalu yma: Prisiant 2022.