Mae awdurdodau gweinyddu’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o dan rwymedigaeth gyfreithiol i baratoi a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC). Mae’r DSC yn chwarae rôl allweddol wrth egluro sut mae’r Gronfa yn bwriadu cyflawni ei hymrwymiadau pensiwn hirdymor mewn modd teg, tryloyw ac ariannol gynaliadwy.
Mae buddion y CPLlL wedi’u gwarantu gan statud, sy’n golygu bod pensiynau aelodau yn ddiogel. Mae’r DSC yn nodi sut mae’r Gronfa’n rheoli cost darparu’r buddion gwarantedig hyn dros ddegawdau. Mae’n amlinellu dull y Gronfa o gydbwyso sefydlogrwydd i gyflogwyr, fforddiadwyedd i drethdalwyr, a diogelwch i aelodau, gan gydnabod bod gan bob cyflogwr sy’n cymryd rhan yn y Gronfa ei amgylchiadau a’i broffil risg ei hun.
Mae’r datganiad hefyd yn cryfhau atebolrwydd drwy wella tryloywder ynghylch sut mae penderfyniadau cyllido’n cael eu gwneud. Mae’n egluro’r rhagdybiaethau a ddefnyddir gan actiwari’r Gronfa, sut mae cyfraniadau’n cael eu pennu, a sut mae risgiau’n cael eu monitro a’u rheoli dros amser.
Yn ei hanfod, mae’r Datganiad Strategaeth Cyllido yn darparu fframwaith statudol clir sy’n arwain yr awdurdod gweinyddu wrth reoli rhwymedigaethau hirdymor y Gronfa, gan sicrhau y gellir cyflawni’r addewidion pensiwn nawr ac yn y dyfodol.
Copïau o’r DSC
Gweler y linciau isod am gopiau o'r datganiadau:
Datganiad Strategaeth Cyllido 2026
Datganiad Strategaeth Cyllido 2023
Datganiad Strategaeth Cyllido 2021
Datganiad Strategaeth Cyllido 2020
Datganiad Strategaeth Cyllido 2017
Datganiad Strategaeth Cyllido 2014
Datganiad Strategaeth Cyllido 2011