Fel Cynghorydd sy’n aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) byddwch yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Bydd y cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth.
Bydd gwir raddfa eich cyfraniadau pensiwn yn 6% o’ch tâl. Ar gyfer Cynghorwyr yng Nghymru, y tâl hwn fydd eich lwfans sylfaenol a’ch lwfans cyfrifoldeb arbennig.
Cyfraniad y Cyflogwr
Mae eich Cyngor yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiad gan yr Actwari yn cael ei wneud er mwyn cyfrifo faint ddylai eich Cyngor fod yn ei gyfrannu at y cynllun.