Partneriaeth Pensiwn Cymru

Wedi'i sefydlu yn 2017, mae Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) yn gydweithrediad o'r wyth cronfa CPLl sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac mae'n un o wyth pwl Pensiwn Llywodraeth Leol cenedlaethol. Dyluniwyd model gweithredu PPC i fod yn hyblyg a sicrhau gwerth am arian gan ddarparu opsiynau o ran buddsoddiadau sy’n caniatáu i Gronfa Bensiwn Gwynedd weithredu strategaeth buddsoddi ein hunain, ond gyda arbedion cost pwysig. Penodwyd Link Fund Solutions yn weithredwr ac maent wedi ei partneru gyda Russell Investments i ddarparu datrysiadau buddsoddi effeithiol. Yr wyth Awdurdod Cyfansoddol yw:

 

 Mae PPC wedi cyflawni cryn gynnydd tuag at gyflawni ei amcanion drwy lawnsio nifer o is-gronfeydd, gyda Cronfa Bensiwn Gwynedd yn rhan ohonynt. Ceir gwybodaeth pellach ar wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru: www.partneriaethpensiwncymru.org

Mae'r Llywodraeth wedi mynegi cefnogaeth gref am gynnig Partneriaeth Pensiwn Cymru i fynd ymlaen i gam nesaf y trefniadau cyfuno buddsoddiadau yn unol â'i hymateb i ymgynghoriad Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 'Addas ar gyfer y Dyfodol'. Dylech fod yn dawel eich meddwl mai nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella fframwaith buddsoddi a llywodraethu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ni fydd yn effeithio ar eich cyfraniadau presennol na'ch buddion pensiwn. Y nod yw sicrhau cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd hirdymor y cynllun.