Yn dilyn cyflwyno Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) ym 1978, roedd rhan o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gweithiwr yn gysylltiedig i’r swm yr oedd yn ei ennill.
Bu i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) gontractio allan o SERPS, a chanlyniad hyn oedd bod yr holl aelodau yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd is. Roedd yn rhaid i’r CPLlL fodloni’r amod i roi i'w holl aelodau bensiwn a oedd o leiaf cystal â’r hyn y byddent wedi’i gael dan SERPS.
Gelwid y pensiwn hwn yn Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG).
Daeth IPG i ben ar 5 Ebrill 1997 a disodlwyd SERPS gan Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P) yn Ebrill 2002.
Eich hawl i IPG
Gall fod gennych hawl i IPG:
- Os oeddech yn aelod o'r CPLlL rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997.
- Os ydych yn cael pensiwn goroeswyr mewn perthynas ag aelod sydd â gwasanaeth CPLlL pensiynadwy rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997. Bydd y IPG yn cyfateb i hanner hawl IPG eich diweddar gymar. Fodd bynnag, ar gyfer gwŷr gweddw a phartneriaid sifil dim ond ar y gwasanaeth o Ebrill 1988 i Ebrill 1997 y bydd y IPG yn cael ei seilio.
Os yw eich Pensiwn CPLlL yn is na’ch IPG, bydd eich pensiwn yn cael ei gynyddu yn unol â hynny. Mae'n cael ei dalu pan ydych yn cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth fel rhan o’ch pensiwn CPLlL, nid yn ychwanegol ato.
Os yw eich aelodaeth yn cynnwys Ebrill 1988, bydd eich IPG yn cael ei rannu’n ddwy hawl: ‘Gwerthoedd cyn Ebrill 1988’ a ‘Gwerthoedd ar ôl Ebrill 1988’. Bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich slip cyflog fel GMP 78 a GMP 88.
Codiad Pensiwn
Bydd eich hawl IPG yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â chostau byw. Bydd y cynnydd sy’n ddyledus ar y IPG 78 (GMP 78) yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn Gwladol. Bydd y 3% cyntaf o'r cynnydd pensiwn sy’n ddyledus ar y IPG 88 (GMP 88) yn cael ei dalu gan Gronfa Bensiwn Gwynedd, bydd y gweddill yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn Gwladol.