Ymddeoliad Salwch

Os ydych wedi bod yn y cynllun am o leiaf 2 flynedd (neu wedi trosglwyddo hawliau blaenorol i mewn i’r cynllun), a bod rhaid i chi adael eich cyflogaeth am resymau iechyd, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i dderbyn eich buddion pensiwn ar unwaith beth bynnag yw eich oed.

Er mwyn bod yn gymwys i ymddeol ar sail iechyd, rhaid i’ch cyflogwr gael ei fodloni ar y canlynol, yn seiliedig ar farn Ymarferwr Cofrestredig Annibynnol sydd wedi ei gymeradwyo:

  • Na allwch ymgymryd â dyletswyddau eich swydd, a hynny’n barhaus
  • Eich bod yn llai tebygol o allu derbyn gwaith cyflogedig* yn rhywle arall oherwydd eich analluogrwydd.

Os ydych yn gymwys i ymddeol ar sail iechyd, bydd lefel y buddion pensiwn y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar ba mor debygol ydych chi o allu derbyn gwaith cyflogedig wedi i chi adael. Mae hyn wedi’i gategoreiddio mewn 3 haen, fel a ganlyn:

Haen 1

Os nad oes gennych unrhyw ragolygon rhesymol o allu derbyn gwaith cyflogedig* cyn eich oed ymddeol arferol, mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar:

  • Y buddion yr oeddech wedi ei gronni hyd at y dyddiad gadael, ynghyd â
  • Y buddion y gallech fod wedi ei gronni rhwng y dyddiad gadael a’ch oed ymddeol arferol.

Haen 2

Os ydych yn annhebygol o allu derbyn gwaith cyflogedig* o fewn 3 blynedd o adael ond ei bod yn bosib y gallech wneud hynny cyn eich oed ymddeol arferol, mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar:

  • Y buddion yr oeddech wedi ei gronni hyd at y dyddiad gadael, ynghyd â
  • 25% o’r buddion y gallech fod wedi ei gronni rhwng y dyddiad gadael a’ch oed ymddeol arferol.

Haen 3

Os ydych yn debygol o allu derbyn gwaith cyflogedig* o fewn 3 blynedd o adael, mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar:

  • Y buddion yr oeddech wedi ei gronni hyd at y dyddiad gadael.

Fodd bynnag, o dan haen 3, bydd eich achos yn cael ei adolygu ar ôl 18 mis gan eich cyflogwr blaenorol er mwyn asesu pa un a yw eich cyflwr wedi gwella neu waethygu. Os yw eich cyflwr wedi gwella a’ch bod yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig*, bydd eich pensiwn yn dod i ben. Os yw eich cyflwr wedi gwaethygu, mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer buddion Haen 2.

Os ydych yn ymddeol ar sail iechyd Haen 3, a’ch bod yn cael eich ailgyflogi o fewn 3 blynedd o ymddeol, rhaid i chi roi gwybod i’ch cyn-gyflogwr fel y gallent asesu pa un a yw’r gwaith yn cael ei gategoreiddio fel gwaith cyflogedig*.

Os ydych yn ymddeol ar sail iechyd a’ch bod yn 45 oed neu’n hŷn ar 31ain o Fawrth 2008, mae gwarchodaeth sy’n sicrhau na fydd unrhyw fuddion chwyddedig yr ydych yn ei derbyn dan haen 1 a haen 2 yn ddim llai na’r cynnydd y byddech wedi bod yn gymwys i’w dderbyn dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oedd mewn grym ar 31ain o Fawrth 2008.

Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.

*Mae gwaith cyflogedig yn golygu gwaith â thal am o leiaf 30 awr yr wythnos am gyfnod o 12 mis o leiaf.