Diswyddiadau neu Effeithlonrwydd

Os ydych yn terfynu eich swydd ar sail diswyddiad neu effeithlonrwydd, rydych yn gymwys i ymddeol a derbyn eich buddion pensiwn ar unwaith os ydych yn 55 oed neu hŷn.

Er ei bod yn bosib y bydd hyn cyn eich oed ymddeol arferol, ni fydd y pensiwn na’r lwmp swm yn cael eu gostwng. Fodd bynnag, bydd y buddion yn seiliedig ar y buddion yr ydych wedi eu cronni i’r dyddiad gadael yn unig, oni bai bod eich cyflogwr yn dewis chwyddo eich buddion trwy ychwanegiad.

Mae gan eich cyflogwr y disgresiwn i ddyfarnu pensiwn blynyddol ychwanegol os ydynt yn dymuno.

Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.