Wedi ymuno cyn Ebrill 1af 2008

Os gadawoch y cynllun cyn Ebrill 1af 2008, eich hawliau pensiwn bydd:

  • Pensiwn = Cyflog terfynol sy’n gyfwerth ag amser llawn x aelodaeth ÷ 80
  • Lwmp swm = 3 x pensiwn blynyddol uchod

Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL cyn Ebrill 1af 2008 ac wedi gadael rhwng Ebrill 1af 2008 a 31ain Mawrth 2014, bydd eich aelodaeth yn cael ei rannu i ddau gyfnod er mwyn i ni gael cyfrifo eich hawliau pensiwn:

1.  Ar gyfer aelodaeth hyd at 31/03/2008, eich hawliau bydd:

  • Pensiwn = Cyflog terfynol sy’n gyfwerth ag amser llawn x aelodaeth ÷ 80
  • Lwmp swm = 3 x pensiwn blynyddol uchod

2.  Ar gyfer aelodaeth o’r 01/04/2008, eich hawliau bydd:

  • Pensiwn = Cyflog terfynol sy’n gyfwerth ag amser llawn x aelodaeth ÷ 60

Os ydych wedi ymuno â’r CPLlL cyn Ebrill 1af 2008 ac wedi gadael ar ol 1af Ebrill 2014, bydd eich aelodaeth yn cael ei rannu i dri cyfnod er mwyn i ni gael cyfrifo eich hawliau pensiwn:

1.  Ar gyfer aelodaeth hyd at 31/03/2008, eich hawliau bydd:

  • Pensiwn = Cyflog terfynol sy’n gyfwerth ag amser llawn x aelodaeth ÷ 80
  • Lwmp swm = 3 x pensiwn blynyddol uchod

2.  Ar gyfer aelodaeth rhwng 01/04/2008 a 31/03/2014, eich hawliau bydd:

  • Pensiwn = Cyflog terfynol sy’n gyfwerth ag amser llawn x aelodaeth ÷ 60

3. Ar gyfer aelodaeth ar ol 01/04/2014, eich hawliau bydd:

  • Pensiwn = Tâl pensiynadwy gwirioneddol o 1 Ebrill i 31 Mawrth ÷ 49

Mae'r cyfrifiad yma yn cael ei gyfrifo am bob blwyddyn treth yn unigol, gyda'r pensiwn yn cael ei gredydu i'ch cyfrif ar ddiwedd bob blwyddyn.

Ni fydd gennych yr hawl i dderbyn lwmp swm yn awtomatig parthed eich aelodaeth o Ebrill 1af 2008 ymlaen.  Ond cofiwch am yr opsiwn i drawsnewid rhan o’ch pensiwn os ydych yn dymuno, fe gewch fanylion llawn am hyn o dan Trawsnewid pensiwn i lwmp swm.