Trawsnewid pensiwn i lwmp swm

Os oeddech yn aelod o’r CPLlL cyn 01/04/2008 byddwch yn cael lwmp swm di-dreth yn awtomatig wrth ichi ymddeol. Bydd dewis gennych hefyd i gymudo rhan o’ch pensiwn er mwyn cael taliad lwmp swm ychwanegol.

Os daethoch yn aelod o’r CPLlL ar 01/04/2008 neu ar ôl hynny, ni fydd hawl gennych i gael lwmp swm di-dreth yn awtomatig, ond fe fydd dewis gennych i gymudo rhan o’ch pensiwn er mwyn cael lwmp swm.

Yr uchafswm pensiwn y gellir ei gymudo yw 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn. Bydd pob £1 o bensiwn sy’n cael ei ildio yn creu £12 o daliad lwmp swm.

Cyfrifo y gwerth cyfalaf

Dylid defnyddio’r fformiwla a ganlyn i gyfrifo’r uchafswm lwmp swm y gellir ei gael:

Gwerth cyfalaf =[ (120 x Pensiwn) + (10 x Lwmp Swm: os o gwbl) + (10 x Cronfa Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol: os o gwbl) ] ÷ 7

Cyfanswm yr uchafswm lwmp swm = Gwerth cyfalaf x 25%

Os byddwch yn penderfynu cymudo rhan o’ch pensiwn yn lwmp swm, ni fydd hyn yn lleihau unrhyw fuddion goroeswr a fyddai’n daladwy yn dilyn eich marwolaeth.

Enghraifft

Mae Samantha yn ymddeol ar ei phen-blwydd yn 65 oed, gyda 30 mlynedd o aelodaeth hyd at 31/03/2008 ac wyth mlynedd o aelodaeth o 01/04/2008. Ei chyflog terfynol yw £17,000.

Pensiwn:

Ar gyfer gwasanaeth hyd at 31/03/2008 = 1/80 x £17,000 x 30 = £6375.00 Ar gyfer gwasanaeth o 31/03/2008 = 1/60 x £17,000 x 8   = £2266.67 Y pensiwn sy’n daladwy = £8641.67

Lwmp swm awtomatig:

Ar gyfer gwasanaeth hyd at 31/03/2008 yn unig =   3/80 x £17,000 x 30 = £19,125.00

Trawsnewid pensiwn i lwmp swm:

Mae Samantha yn dewis cymudo’r uchafswm pensiwn er mwyn cynyddu ei lwmp swm.

Gwerth cyfalaf = [(120 x £8,641.67) + (10 x £19,125.00) = £1,228,250.40 ] ÷ 7

Uchafswm lwmp swm  = £175.464.34 x 25% = £43,866.09

Er mwyn cyfrifo faint o bensiwn sy’n cael ei gymudo, dylid tynnu’r lwmp swm gwreiddiol o’r uchafswm lwmp swm, ac yna ei rannu gyda 12.

£43,866.09 - £19,125.00 = £24, 741.09 / 12 = £2,061.76 o bensiwn sy’n cael ei drawsnewid i greu uchafswm lwmp swm

Yn dilyn y cyfrifiad hwn dyma fyddai buddion diwygiedig Samantha:

Pensiwn: £8,641.67 - £2,061.76 = £6,579.91 Lwmp swm: £43,866.09