Ymddeoliad Cynnar

Gallwch ddewis ymddeol yn gynnar a derbyn eich buddion pensiwn unrhyw bryd o oed 55 ymlaen heb ganiatâd eich cyflogwr. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi roi gwybod iddynt am eich bwriad i ymddeol.

Wrth ymddeol yn gynnar, cyn eich oed ymddeol arferol, bydd y pensiwn a’r lwmp swm ymddeol sydd yn eich cyfrif pensiwn yn cael eu gostwng gan eu bod yn cael eu talu’n gynnar ac, o bosib, am yn hwy. Bydd y gostyngiad yn cael ei weithredu fel canran o’ch pensiwn a’ch lwmp swm. Po agosaf ydych at eich oed ymddeol arferol pan fyddwch yn ymddeol, y lleiaf y bydd y gostyngiad.

Noder: Os ydych yn ymddeol ar neu ar ol 01/02/2019, gall y buddion newid oherwydd newidiadau disgwyliedig i’r ffactorau actiwaraidd a dylai aelodau ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu buddion CPLlL. 

Os oeddech chi yn aelod o’r cynllun ar 30ain o Fedi 2006 ac y byddech wedi bodloni’r rheol 85 mlynedd wrth ymddeol, gallai’ch buddion i gyd, neu ran ohonynt, fod wedi’u gwarchod rhag y gostyngiad.

Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol cyn eich oed ymddeol arferol, gallwch ddewis cadw eich buddion yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd hyd at ddyddiad hwyrach fel na weithredir unrhyw ostyngiad i’ch buddion, neu fod y gostyngiad yn llai.

Ar eich ymddeoliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen ymddeol cyn y gallwn dalu eich buddion.