Rheol 85 Mlynedd

Yn y gorffennol, pe byddai aelod  yn ymddeol cyn cyrraedd yr oed ymddeol arferol, roedd yn bosib iddynt ymddeol heb ostyngiad os oeddent yn bodloni’r rheol 85 mlynedd.

Er mwyn bodloni’r rheol 85 mlynedd, roedd gofyn i oed yr aelod wrth ymddeol (mewn blynyddoedd llawn) a’r aelodaeth wrth ymddeol (mewn blynyddoedd llawn) wrth eu hadio at ei gilydd fod yn hafal neu’n uwch na 85.

Er enghraifft, pe byddai aelod yn ymddeol yn 60 oed a bod ganddo/ganddi 25 mlynedd neu fwy o aelodaeth, byddai wedi bodloni’r rheol 85 mlynedd ac yn medru ymddeol yn 60 oed heb ostyngiad i’w bensiwn/phensiwn.

Dilëwyd y rheol 85 mlynedd ar 30ain o Fedi 2006, fodd bynnag, rhoddwyd gwarchodaeth mewn lle fel bod aelodau oedd yn y cynllun ar 30ain o Fedi 2006 neu cyn hynny ac a allent fod wedi bodloni’r rheol 85 mlynedd wrth ymddeol, yn medru gwarchod eu buddion i gyd, neu ran ohonynt, rhag y gostyngiad.

Mae lefel y warchodaeth yn dibynnu ar eich dydd geni, fel a ganlyn:

  • Dyddiad geni o 31/03/1956 neu cyn hynny: Holl fuddion a adeiladwyd hyd at 31/03/2016 yn cael eu gwarchod.

  • Dyddiad geni rhwng 01/04/1956 a 31/03/1960: Holl fuddion a adeiladwyd hyd at 31/03/2008 yn cael eu gwarchod, gyda’r buddion a adeiladwyd rhwng 01/04/2008 a 31/03/2020 yn cael eu gwarchod ar raddfa symudol o ostyngiad.

  • Dyddiad geni wedi 01/04/1960: Buddion a adeiladwyd hyd at 31/03/2008 yn cael eu gwarchod, gyda’r buddion o 01/04/2008 yn atebol i’r gostyngiad llawn.