Bwrdd Pensiwn - Cais am aelodau newydd

Dyddiad: 1st Chwefror 2023

Ers 1 Ebrill, 2015 mae Cyngor Gwynedd wedi sefydlu Bwrdd Pensiynau er mwyn sicrhau ei fod, fel Rheolwr Cynllun ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), yn cyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau yn y meysydd canlynol:

  • Sicrhau cydymffurfiad a rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Côd Ymarfer y Rheoleiddiwr Pensiynau ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddiaeth y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • Sicrhau llywodraethu a gweinyddu effeithiol ac effeithlon o'r CPLlL ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd.

Mae'r Bwrdd wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus am y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag mae’n awr yn amser i ail-benodi aelodau o’r Bwrdd, felly mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am fynegiant o ddiddordeb gan aelodau'r cynllun i gynrychioli staff a chyflogwyr ar y Bwrdd. Mae aelodaeth yn wirfoddol ac wedi ei gyfyngu i 6 aelod, mae tri ohonynt yn gynrychiolwyr o'r aelodaeth y Cynllun a tri yn cynrychiolwyr y cyflogwyr.

Os ydych yn teimlo bod gennych y ddawn, yr amser a'r gallu i ddysgu am y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yn aelod sy’n cyfrannu i’r Cynllun a gyda diddordeb yn y rôl newydd hon, yna gweler y linciau isod am fwy o wybodaeth a'r ffurflen gais:  

Taflen Wybodaeth

Rol a Manyleb Person

Cylch Gorchwyl a Llywodraethu

Ffurflen Gais

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb yw 28/02/20023.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Meirion Jones ar 01286 679643 neu e-bostiwch meirionjones2@gwynedd.llyw.cymru