Hysbysiad Preifatrwydd

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD CYFLAWN

ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer buddiolwyr ac aelodau (y cyfeirir atynt fel “chi”) Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”). Fe'i baratowyd gan Gyngor Gwynedd (yr “Awdurdod Gweinyddu”, neu “ni”) yn ei rinwedd fel awdurdod gweinyddu'r Gronfa. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn hefyd ar gael ar-lein yn y ddolen a ganlyn: https://www.cronfabensiwngwynedd.cymru/cy/AelodauActif/GDPR/Hysbysiad-Preifatrwydd.aspx

Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd neu bolisi prosesu teg arall y gallwn eu ddarparu ar achlysuron penodol pan fyddwn yn casglu neu'n prosesu data personol amdanoch, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham rydym yn defnyddio eich data. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disodli unrhyw hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallwn fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol ac yn ategu unrhyw hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill a gyhoeddwn sy'n benodol i weithgareddau casglu / prosesu data.

Pam rydym yn darparu'r hysbysiad hwn i chi

Fel Awdurdod Gweinyddu'r Gronfa, rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch, y byddai modd eich hadnabod ohoni ("data personol") ac a ddefnyddir gennym i weinyddu'r Gronfa ac i dalu buddion ohoni. Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae'n ofynnol i ni roi gwybodaeth benodol i chi am y data personol sydd gennym amdanoch, sut y caiff ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â'r data a'r mesurau diogelu sydd ar waith i'w ddiogelu. Diben yr hysbysiad hwn yw rhoi'r wybodaeth honno i chi.

Y rhan technegol

Mae'r Awdurdod Gweinyddu yn cadw data personol amdanoch chi, yn rhinwedd ei rôl fel rheolydd data i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â phob mater yn ymwneud â’r Gronfa, yn cynnwys ei gweinyddu a’i rheoli. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu’ch data er mwyn cysylltu â chi, i gyfrifo, sicrhau a thalu eich buddion, i wneud gwaith modelu ystadegol ac ariannol ac at ddibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion yr aelodau a’r buddiolwyr sut y dylid buddsoddi’r arian hwnnw), ac i reoli rhwymedigaethau a gweinyddu’r Gronfa yn gyffredinol. Darperir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data personol isod.

Fel arfer, y sail gyfreithiol i’n defnydd o’ch data personol fydd yr angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu'r Gronfa, gan gynnwys, er enghraifft, ein rhwymedigaethau o dan reoliadau'r dangosfwrdd pensiynau. Pan nad yw'r sail gyfreithiol honno yn berthnasol, y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o'ch data personol fydd un neu ragor o'r canlynol:

a)     mae angen i ni brosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn ein rhinwedd fel corff cyhoeddus; a

b)     mae angen i ni brosesu eich data personol i’r dibenion dilys o weinyddu a rheoli’r Gronfa a’r rhwymedigaethau oddi tani, cyfrifo, sicrhau a thalu buddion a chyflawni’n rhwymedigaethau ac arfer unrhyw hawliau, dyletswyddau a disgresiwn sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu mewn perthynas â’r Gronfa ac

c)     oherwydd bod angen inni brosesu eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi mewn perthynas â’r Gronfa (er enghraifft, o dan gytundeb y byddwch chi’n talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i’r Gronfa), neu i gymryd camau, ar eich cais chi, cyn ymrwymo i gontract.

Sylwer, pan fyddwn yn nodi bod prosesu eich data personol yn angenrheidiol er mwyn i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu i ni gymryd camau ar eich cais chi, i ymrwymo i gontract cyflogaeth arfaethedig gyda chi, neu i'w gyflawni, a'ch bod yn dewis peidio â darparu'r data personol perthnasol i ni, efallai na fyddwn yn gallu ymrwymo neu barhau â'n contract gyda chi.

Pa ddata personol rydym yn ei gadw, a sut rydym yn ei gael

Mae’r mathau o ddata personol rydyn ni’n ei gadw ac yn ei brosesu amdanoch yn gallu cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Manylion adnabod, yn cynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol, rhif gweithiwr a rhif aelodaeth ac, os ydych wedi defnyddio dangosfwrdd pensiynau i gael mynediad at wybodaeth am eich pensiwn, "dynodwr pensiwn" (PEI), a ddefnyddir i gadarnhau cyfatebiaeth ac adnabod eich buddion penodol o dan y Gronfa at ddibenion dangos gwybodaeth drwy ddangosfwrdd.
  • Gwybodaeth sy’n cael ei defnyddio i gyfrifo ac asesu cymhwyster am fuddion, er enghraifft, hyd y cyfnod o wasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am eich cyflog.
  • Gwybodaeth ariannol sy’n berthnasol wrth gyfrifo neu dalu buddion, er enghraifft, manylion cyfrif banc a threth.
  • Gwybodaeth am eich teulu, dibynyddion neu amgylchiadau personol, er enghraifft, statws priodasol a gwybodaeth berthnasol i ddosbarthu a dyrannu’r buddion sy’n daladwy ar farwolaeth.
  • Gwybodaeth am eich iechyd, er enghraifft, i asesu cymhwyster am fuddion sy’n daladwy pan fydd iechyd rhywun yn wael, neu lle mae eich iechyd yn berthnasol i hawliad am fuddion yn dilyn marwolaeth aelod o’r Gronfa.
  • Gwybodaeth am euogfarn droseddol os yw hynny wedi golygu bod arnoch chi arian i’ch cyflogwr neu’r Gronfa ac y gallai’r cyflogwr neu’r Gronfa gael eu had-dalu o’ch buddion.
  • Gwybodaeth am unrhyw aelodaeth flaenorol o gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus eraill ac awdurdodau eraill sy'n gweinyddu CPLlL, gan gynnwys eich dyddiad gadael ac a yw'r cynllun/awdurdod blaenorol wedi asesu eich cymhwysedd i gael gwarchodaeth danategol (gweler "Sut fyddwn yn defnyddio eich data" isod).

Rydym yn cael rhywfaint o'r data personol hwn yn uniongyrchol gennych chi. Gallwn hefyd gael data (er enghraifft, gwybodaeth am eich cyflog) oddi wrth eich cyflogwr/wyr cyfredol neu flaenorol neu gwmnïau a’u holynodd mewn busnes, oddi wrth aelod o’r Gronfa (lle’r ydych chi neu lle gallech fod yn fuddiolwr o dan y Gronfa o ganlyniad i aelodaeth y person hwnnw o’r Gronfa) ac o amrywiaeth o ffynonellau eraill yn cynnwys cronfeydd data cyhoeddus (megis y Gofrestr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau), dangosfwrdd pensiynau (pan fyddwch yn ei ddefnyddio i weld gwybodaeth am eich pensiwn), ein cynghorwyr neu gyrff llywodraeth neu gyrff rheoleiddio, yn cynnwys y rheini ar y rhestr o sefydliadau y gallwn rannu’ch data personol gyda hwy, sydd wedi’i nodi isod.

Lle’r ydym yn cael gwybodaeth am rai “categorïau arbennig” o ddata neilltuol o sensitif, megis gwybodaeth am iechyd, mae mesurau diogelu ychwanegol mewn grym o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y byddwn yn prosesu’ch data personol sy’n disgyn i un o’r categorïau arbennig, oni bai ein bod yn gallu prosesu’r data hwn yn gyfreithlon am reswm arall a ganiateir gan y ddeddfwriaeth honno.  Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd i brosesu yn ôl ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r Awdurdod Gweinyddu yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na roddwch eich caniatâd, neu os byddwch yn ei dynnu’n ôl yn ddiweddarach, efallai na fydd yr Awdurdod Gweinyddu yn gallu prosesu’r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau yn seiliedig arni, yn cynnwys penderfyniadau am dalu eich buddion.

Lle’r ydych wedi darparu data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau o’r teulu, dibynyddion neu fuddiolwyr posibl o dan y Gronfa, cofiwch sicrhau bod yr unigolion hynny’n ymwybodol o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr hysbysiad hwn.

Sut fyddwn yn defnyddio eich data personol

Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddelio â’r holl faterion yn ymwneud â’r Gronfa, yn cynnwys ei gweinyddu a’i rheoli. Gall hyn gynnwys prosesu eich data personol at bob un neu unrhyw rai o’r dibenion a ganlyn:

  • i gysylltu â chi.
  • i asesu cymhwyster am fuddion, eu cyfrifo a’u darparu i chi (ac, os ydych yn aelod o’r Gronfa, i’ch buddiolwyr ar eich marwolaeth).
  • i nodi eich opsiynau posibl neu wirioneddol o ran buddion a, ble bo hynny'n berthnasol, gweithredu'r opsiynau hynny.
  • i hwyluso mynediad i'ch gwybodaeth pensiynau drwy ddangosfwrdd pensiynau.
  • at ddibenion modelu ystadegol ac ariannol a dibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion yr aelodau a buddiolwyr a sut y dylai’r arian hwnnw gael ei fuddsoddi).
  • i asesu ac, os yw'n briodol, gweithredu ar gais gennych i drosglwyddo'ch buddion allan o'r Gronfa.
  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol fel awdurdod gweinyddu’r Gronfa.
  • i ymdrin ag ymholiadau gan aelodau a buddiolwyr eraill ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl ynglŷn â’r Gronfa.
  • i reoli rhwymedigaethau’r Gronfa, yn cynnwys ymrwymo i drefniadau yswiriant a dewis buddsoddiadau’r Gronfa.
  • mewn perthynas â gwerthu, uno neu ad-drefnu corfforaethol ar unrhyw fusnes neu drosglwyddo busnes o eiddo’r cyflogwyr sy’n rhan o’r Gronfa a chwmnïau eu grŵp.
  • i adnabod a ydych yn gymwys i gael gwarchodaeth danategol. Am ragor o wybodaeth, gweler https://www.lgpsmember.org/mccloud-remedy/.

Sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â hwy

O bryd i’w gilydd byddwn yn rhannu eich data personol gyda chynghorwyr a darparwyr gwasanaethau fel y gallant ein helpu i gyflawni’n dyletswyddau, ein hawliau a’n disgresiwn mewn perthynas â’r Gronfa.  Bydd rhai o’r sefydliadau hyn dim ond yn prosesu’ch data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau; cyfeirir atynt fel proseswyr. Bydd rhai o’r sefydliadau eraill yn gyfrifol i chi yn uniongyrchol am eu defnydd o'r data personol y byddwn yn ei rannu â hwy; cyfeirir atynt fel rheolyddion. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae'n bosib y bydd yn rhaid i'r rheolyddion ddarparu gwybodaeth ychwanegol i chi am y data personol a gedwir ganddynt, a sut a pham y maent yn prosesu'r data hwnnw. Gellir darparu rhagor o wybodaeth i chi mewn hysbysiad ar wahân neu gellir ei chael gan yr ymgynghorwyr a'r darparwyr gwasanaeth yn uniongyrchol, er enghraifft trwy eu gwefannau.

Pan fydd un o'n cynghorwyr neu ddarparwyr gwasanaeth yn gweithredu fel rheolydd ar y cyd â ni mewn perthynas â'ch data personol, a'n bod yn gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch y dibenion a'r dulliau prosesu, byddwn yn cytuno sut y bydd y naill a'r llall yn bodloni ei rwymedigaethau unigol a chyfun o dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut y bydd trefniant o'r fath yn gweithio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae'r sefydliadau y gallwn rannu eich data personol gyda hwy yn cynnwys yr ymgynghorwyr a'r darparwyr gwasanaeth isod:

Proseswyr

  • Gweinyddwr – (Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd)
  • Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – 'Clerical Medical', 'Utmost Life and Pensions' a 'Standard Life' ar hyn o bryd 
  • Cyfrifwyr – (Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd)
  • Canolfannau olrhain ar gyfer sgrinio marwolaethau a chanfod aelodau a buddiolwyr – (Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd)
  • Darparwr taliadau dramor i drosglwyddo taliadau i aelodau a buddiolwyr y cynllun sydd â chyfrifon y tu allan i’r DU – (Crown Agent Bank ar hyn o bryd)
  • Darparwr(wyr) gwasanaethau integredig, sy'n hwyluso cysylltiadau â dangosfwrdd pensiynau – (Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd)
  • Cwmnïau argraffu – (Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd)
  • Darparwr meddalwedd pensiynau – (Heywood Pension Technologies ar hyn o bryd)
  • Cyflenwyr gwasanaethau TG, a chynhyrchu a dosbarthu dogfennau

Rheolyddion

  • Ymgynghorydd actiwaraidd – (Hymans Robertston ar hyn o bryd)
  • Ymgynghorydd buddion y gronfa – (Hymans Robertson ar hyn o bryd)
  • Cynghorydd buddsoddi – (Hymans Robertson ar hyn o bryd)
  • Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol – (‘Clerical Medical’, ‘Utmost Life and Pensions’ and ‘Standard Life’ ar hyn o bryd)
  • Cynghorydd cyfreithiol – (Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd)
  • Actiwari y Gronfa – (Hymans Robertson ar hyn o bryd)
  • Archwilydd statudol – (Archwilio Cymru ar hyn o bryd)
  • Archwilydd allanol – (Archwilio Cymru ar hyn o bryd)
  • Archwilydd mewnol – (Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd)
  • Cwmnïau yswiriant o ran buddion salwch – (Legal and General ar hyn o bryd)
  • Cronfa ddata Yswiriant Gwladol CPLlL– (Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog)
  • Awdurdodau Gweinyddu cronfeydd CPLlL eraill (neu eu hasiantau, megis gweinyddwyr trydydd parti) lle rydych wedi bod yn aelod o gronfa CPLlL arall ac mae angen y wybodaeth i benderfynu ar y buddion y mae gennych chi neu eich dibynyddion hawl iddynt
  • Gweinyddwyr cynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus eraill lle rydych wedi bod yn aelod o gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall ac mae angen y wybodaeth i benderfynu a ydych yn gymwys i gael gwarchodaeth danategol
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Adran Actiwari'r Llywodraeth
  • Swyddfa'r Cabinet – at ddibenion y Fenter Twyll Genedlaethol
  • CThEF
  • Llysoedd Cymru a Lloegr – i’r diben o brosesu gorchmynion rhannu pensiwn ar ysgariad
  • Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau

 

Lle'r ydym yn buddsoddi ar ran y Gronfa neu’n ceisio darparu buddion i aelodau a buddiolwyr mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddefnyddio yswiriant, efallai y bydd angen inni rannu data personol gyda darparwyr buddsoddiadau, yswirwyr a gweithredwyr cynlluniau pensiwn eraill.

O bryd i’w gilydd efallai y byddwn yn darparu rhywfaint o’ch data i’ch cyflogwr a’i is-gwmnïau perthnasol (a darpar-brynwyr eu busnesau) a chynghorwyr i’r diben o alluogi’r endidau hynny i ddeall rhwymedigaethau'r cyflogwr mewn perthynas â'r Gronfa. Byddai eich cyflogwr yn gyffredinol yn rheolydd ar y data personol a rennir gydag ef yn yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, lle mae eich cyflogaeth yn ymwneud â darparu gwasanaethau sy’n ddarostyngedig i drefniant allanoli, gallai’r Awdurdod Gweinyddu ddarparu gwybodaeth am eich buddion pensiwn i’ch cyflogwr ac i ddarpar gynigwyr am y contract hwnnw pan ddaw i ben neu pan gaiff ei adnewyddu.

Mae'r fframwaith dangosfwrdd pensiynau yn ei gwneud yn ofynnol i ni rannu data personol o fewn ecosystem y dangosfyrddau. Pan fydd aelod yn chwilio am wybodaeth am ei bensiynau ar-lein drwy ddangosfwrdd pensiynau, rydym yn derbyn data personol penodol at ddibenion nodi cyfatebiaeth â phensiwn yr aelod yn y Gronfa. Yna mae angen i ni ddarparu gwybodaeth benodol am y pensiwn i'r ecosystem dangosfyrddau fel y gellir ei arddangos trwy'r dangosfwrdd perthnasol.

Lle gwneir cais neu os ydym o’r farn fod angen rhesymol am hynny, gallwn hefyd ddarparu eich data i gyrff llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, yn cynnwys y rhai a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF). Gallant wedyn ddefnyddio'r data i gyflawni eu swyddogaethau.

Gall y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau uchod ddefnyddio’r data personol i gyflawni’u swyddogaethau mewn perthynas â’r Gronfa yn ogystal ag ar gyfer modelu ystadegol ac ariannol (megis cyfrifo costau cyfartalog disgwyliedig buddion a chyfraddau marwolaethau) ac at ddibenion cynllunio, gweinyddu busnes a rheoleiddio. Gallant hefyd drosglwyddo'r data i drydydd partïon eraill (er enghraifft, gall yswirwyr basio data personol i gwmnïau yswiriant eraill i’r diben o ailyswirio), i’r graddau y maent yn ystyried bod gofyn rhesymol am y wybodaeth at ddiben cyfreithlon.

Trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i'r Deyrnas Unedig

Mewn rhai achosion gallai’r cyrff derbyn hyn fod y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu y gallai eich data personol gael ei drosglwyddo y tu allan i’r DU i awdurdodaeth nad yw efallai yn cynnig lefel ddiogelu sy’n cyfateb i ofynion Llywodraeth y DU.

Os digwydd hyn, bydd yn rhaid gweithredu mesurau diogelu ychwanegol gyda golwg ar ddiogelu eich data yn unol â’r cyfreithiau cymwys. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd.

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich data personol

Ni fyddwn yn cadw eich data personol ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny er mwyn cyflawni’r diben(ion) y casglwyd ef ar ei gyfer a chyn hired wedi hynny ag a allai fod yn ofynnol yn ein barn ni i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallem eu cael ynglŷn â gweinyddiad y Gronfa, oni bai ein bod yn dewis cadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y caiff eich data personol ei gadw am: 

  • y cyfryw gyfnod ag y mae gennych chi (neu unrhyw fuddiolwr sy’n derbyn buddion ar ôl eich marwolaeth) hawl i fuddion o’r Gronfa ac am gyfnod o 15 mlynedd ar ôl i’r taliadau buddion hynny ddod i ben. Am yr un rheswm, efallai y bydd angen hefyd i’ch data personol gael ei gadw lle’r ydych wedi cael trosglwyddiad, neu ad-daliad, o’r Gronfa mewn perthynas â’ch hawl i fuddion; neu

Lle fyddwch yn ceisio cael mynediad at eich gwybodaeth pensiynau trwy ddangosfwrdd pensiynau, mae'r rheoliadau dangosfwrdd pensiynau yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw gwahanol fathau o wybodaeth (rhai ohonynt yn cynnwys data personol) am gyfnodau penodol, fel y disgrifir yn fanylach yma:  https://www.pensionsdashboardsprogramme.org.uk/standards/data-retention-schedule.

Eich hawliau

Mae gennych hawl i weld a chael copi o’r data personol y mae’r Awdurdod Gweinyddu yn ei ddal amdanoch ac i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gywiro neu lenwi bylchau yn eich data personol os oes unrhyw wallau neu os nad yw’n gyfredol. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd gennych hawl hefyd i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gyfyngu prosesu eich data personol, neu ei drosglwyddo neu mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, megis ble nad oes angen eich data personol bellach ar gyfer y diben prosesu) ddileu eich data personol.  Dylech nodi nad oes rhaid i ni ddileu eich data personol os oes angen i ni ei brosesu at ddibenion gweinyddu'r Gronfa.

Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol; er enghraifft, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol sy'n seiliedig ar fuddiant y cyhoedd neu fuddiannau cyfreithlon a nodir yn yr adran uchod "Y rhan technegol", neu lle mae'r prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn www.ico.org.uk neu drwy ei linell gymorth (0303 123 1113).

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa neu ein Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Gallwch gyflwyno cwyn diogelu data atom drwy lenwi ein ffurflen gwynion, sydd ar gael yn https://www.cronfabensiwngwynedd.cymru/cy/Gwybodaeth/Cysylltu-a-Ni/Cysylltu-Ar-Lein.aspx

Mae gennych hawl hefyd i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ynglŷn â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Awdurdod Gweinyddu – gallwch wneud hynny drwy’r wefan uchod neu’r llinell gymorth.

Fel y nodir yn yr adran uchod "Sut fyddwn yn defnyddio eich data personol", un o'r rhesymau dros gasglu a chadw eich data personol yw gweinyddu buddion eich Cronfa. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, neu os byddwch yn gofyn am i’r data personol yr ydym yn ei ddal yn barod gael ei ddileu neu am gyfyngu arno, gallai hyn effeithio ar ein gallu i dalu buddion i chi, gan gynnwys talu buddion o'r Gronfa.  Mewn rhai achosion gallai olygu nad yw’r Awdurdod Gweinyddu yn gallu dechrau talu eich pensiwn neu fod rhaid iddo atal eich pensiwn (os yw eisoes yn cael ei dalu).

Diweddariadau

Efallai y byddwn yn diweddaru'r hysbysiad hwn o bryd i'w gilydd.  Lle’r ydym yn gwneud hyn, byddwn yn hysbysu’r aelodau o’r newidiadau a’r dyddiad pan fydd y newidiadau’n dod i rym.
 

Cysylltu â ni

Cysylltwch â gweinyddwr y Gronfa, Cyngor Gwynedd am ragor o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data

Gallwch hefyd gysylltu â’n swyddog diogelu data, Helen Mary Parry, am ragor o wybodaeth neu os oes gennych gŵyn am sut rydym wedi ymdrin â'ch data personol.