GDPR

Mae Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) wedi dod i rym ar 25 Mai 2018. Mae'n newid sut mae sefydliadau'n prosesu a thrin data, gyda'r nod allweddol o roi mwy o ddiogelwch a hawliau i unigolion.

Eisoes, mae gan Gyngor Gwynedd weithdrefnau yn eu lle sy'n cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data tebyg o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.  Er mwyn darparu'r gwasanaeth gweinyddu pensiwn i chi, mae eich data personol eisoes wedi'i ddefnyddio yn unol â'r ddeddfwriaeth hon.  Yn syml, mae'r rheoliadau newydd yn atgyfnerthu'r gofynion presennol hyn.

I ganfod mwy ynglŷn â sut mae’r gronfa bensiwn yn defnyddio’ch data a gyda phwy y’i rhennir, a pha hawliau sydd gennych chi mewn perthynas â'ch gwybodaeth, ewch i'r Hysbysiad Preifatrwydd isod: