Pensiwn Goroeswr

Os wedi gadael cyn 01/04/2008

Pensiwn gwraig weddw

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gwraig weddw’n derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich gweddw. 

Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn gwraig weddw hirdymor yn daladwy.   Bydd pensiwn gwraig weddw gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. 

Os y priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio. 

Pensiwn gŵr gweddw

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gŵr gweddw’n derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich gweddw. 

Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn gŵr gweddw hirdymor yn daladwy.   Bydd pensiwn gŵr weddw gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. 

Os y priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth weithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio. 

Pensiwn partner sifil

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich Partner Sifil yn derbyn pensiwn byrdymor sydd gyfystyr â’r pensiwn yr oeddech yn ei dderbyn cyn eich marwolaeth, am gyfnod o 3 mis, neu am 6 mis os oes plentyn cymwys yng ngofal eich partner. 

Unwaith y daw’r pensiwn byrdymor i ben, bydd pensiwn Partner Sifil hirdymor yn daladwy. Bydd hwn gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth rhwng 6 Ebrill 1988 a’r dyddiad gadael aelodaeth weithredol. 

Os wedi gadael ar ol 01/04/2008

Pensiwn gwraig weddw

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gwraig weddw’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. 

Os y priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth gweithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio. 

Pensiwn gŵr gweddw

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich gŵr gweddw’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad gadael. 

Os y priodoch ar ôl i chi orffen eich aelodaeth gweithredol, dim ond eich aelodaeth ar ôl 5 Ebrill 1978 fydd yn cael ei ddefnyddio. 

Pensiwn Partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw â chi ac wedi’u henwebu

Wedi’ch marwolaeth, bydd eich partner sifil neu bartner enwebedig sy’n cyd-fyw â chi’n derbyn pensiwn sydd gyfwerth ag 1 / 160ain o’ch tâl terfynol wedi’i luosi â chyfanswm yr aelodaeth a gronnoch o 6 Ebrill 1988, hyd at y dyddiad gadael.