Lwmp Swm Grant Marwolaeth

Os wedi gadael cyn 01/04/2008

Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 5 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd grant marwolaeth yn daladwy yn gyfystyr â 5 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod. 

Dylai holl aelodau’r cynllun sydd wedi ymddeol gwblhau ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth.   Mae’r ffurflen hon yn gadael i chi enwebu un neu fwy o unigolion neu sefydliadau i dderbyn y taliad grant marwolaeth perthnasol, heb iddo ffurfio rhan o’r ystad er dibenion treth etifeddu.  

Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi pob amser. 

Pe byddech yn penderfynu newid eich buddiolwr, bydd pob ffurflen newydd yr ydym ni’n ei derbyn yn cymryd lle’r un flaenorol. 

Pe nad oes ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystad neu i’ch priod hysbys.   Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.

Os wedi gadael ar ôl 01/04/2008

Os oeddech wedi bod yn derbyn pensiwn am lai na 10 mlynedd ar ddyddiad eich marwolaeth, bydd grant marwolaeth yn daladwy sydd gyfystyr â 10 gwaith eich pensiwn blynyddol, llai’r cyfanswm pensiwn a dalwyd yn barod. 

Dylai holl aelodau’r cynllun sydd wedi ymddeol gwblhau ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth.   Mae’r ffurflen hon yn gadael i chi enwebu un neu fwy o unigolion neu sefydliadau i dderbyn y taliad grant marwolaeth perthnasol, heb iddo ffurfio rhan o’r ystad er dibenion treth etifeddu.  

Gennym ni fydd y disgresiwn terfynol o ran pwy fydd yn derbyn y lwmp swm, ond byddwn yn ystyried eich dymuniadau chi pob amser. 

Pe byddech yn penderfynu newid eich buddiolwr, bydd pob ffurflen newydd yr ydym ni’n ei derbyn yn cymryd lle’r un flaenorol. 

Pe nad oes ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth, telir y lwmp swm grant marwolaeth i’ch ystad neu i’ch priod hysbys, partner sifil, neu bartner enwebedig sy’n cyd-fyw â chi.   Os nad oes priod / partner sifil, bydd angen profi’r ewyllys neu lythyrau gweinyddu cyn y gellir talu’r grant marwolaeth.