Ymddeoliadau Salwch

Os oes gennych chi aelodau o staff sydd yn y CPLlL ac eu bod yn dod yn analluog i gyflawni dyletswyddau eu swydd bresennol oherwydd afiechyd neu wendid, efallai y byddant yn gymwys i ryddhau eu buddion pensiwn.

Yn yr un modd, os oes gennych gyn-weithiwr sy'n dod yn analluog i gyflawni dyletswyddau swydd a ddaliwyd gyda chi tra yn y CPLlL, gallant hefyd wneud cais i chi i ryddhau eu buddion pensiwn ar sail salwch.

Y cyflogwr sy’n penderfynu ar gais am ymddeoliad oherwydd salwch, fodd bynnag, mae’n bwysig bod y cyflogwr yn dilyn y broses yn gywir, i ymdrin â cheisiadau’n effeithlon ac i beidio â gadael ei hun yn atebol am anghydfodau sy’n deillio o gamweinyddu.

Gweithwyr sy'n ddifrifol wael

Os byddwch yn cael gwybod bod un o'ch staff yn y CPLlL yn ddifrifol wael neu'n derfynol wael a bod disgwyliad oes yn gyfyngedig, yna dylech ofyn am arweiniad gennym cyn gynted â phosibl.

Gall y statws cyflogaeth ar ddyddiad y farwolaeth effeithio'n fawr ar faint o fudd ariannol y byddai'r teulu neu'r buddiolwyr yn ei gael.

Gall fod yn fwy buddiol os yw'r gweithiwr yn derbyn ei bensiwn pan fydd yn marw, felly efallai y bydd angen i chi ddechrau trafod ymddeoliad oherwydd salwch. Gyda chaniatâd eich gweithiwr, gallwn ddarparu dyfynbrisiau posibl i'r cyflogwr er mwyn canfod yr opsiwn fwyaf buddiol yn ariannol i'r teulu; marwolaeth mewn gwasanaeth, neu farwolaeth yn derbyn eu pensiwn CPLlL.

Effaith bosibl peidio â gweithredu

Gall anweithgarwch neu oedi ar ran y cyflogwr ar yr adeg hollbwysig hon gael effaith sylweddol ar eich staff neu ei deulu neu fuddiolwr. Mae'n bwysig bod eich staff yn ymwybodol bod ganddynt benderfyniad allweddol i'w wneud am eu pensiwn. Lle nad yw cyflogwr yn cefnogi eu staff i ddarparu gwybodaeth am eu hopsiynau pensiwn, gellir ystyried apêl yn erbyn diffyg gweithredu cyflogwr fel camweinyddu.