Cyfathrebu gyda Chyflogwyr

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn benodol ar gyfer Cyflogwyr a Chynrychiolwyr Undeb er mwyn iddynt drafod yr Adroddiad a’r Cyfrifon Blynyddol. Mae cynrychiolwyr o gyrff cynghori proffesiynol eraill, megis Actwari’r Gronfa a Rheolwyr y Gronfa, yn bresennol hefyd er mwyn ateb cwestiynau ynghylch Cyllid, Perfformiad Buddsoddiadau a Phrisiannau.

Cyfarfodydd Hyfforddi Cyflogwyr Unigol

Gellir trefnu’r cyfarfodydd hyn ar gais y Corff Cyflogi, ar sail unigol.

Seminarau Cyflogwyr

Gellir trefnu’r rhain pan fo newid sylweddol wedi bod mewn deddfwriaeth. Er enghraifft:

  • Ym mis Gorffennaf 2012, cynhaliwyd cyfarfod i Gyrff Cyflogi yn swyddfeydd Gwynedd, dan arweiniad Jeff Houston o’r Pwyllgor Pensiynau Llywodraeth Leol, ar y Prosiect 2014 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Ym mis Medi 2012 cynhaliwyd cyfarfod i Gyrff Cyflogi yn swyddfeydd Gwynedd, dan arweiniad Jeremy Leslie-Smith o'r Rheoleiddiwr Pensiynau a Colin Lewis o Heywood ar Gofrestru Awtomatig.

Cronfa Ddata Cysylltiadau

Cyflwynir diweddariadau rheolaidd ynghylch unrhyw newidiadau neu newidiadau arfaethedig yn y CPLlL i bob Corff Cyflogi trwy e-bost neu lythyr. Mae cronfa ddata Cysylltiadau’r Cyflogwr yn cael ei diweddaru yn ôl yr angen yn unol â gwybodaeth a dderbynnir gan Gyflogwyr.

Cytundebau Partneriaeth Cyflogwyr a Chytundebau Lefel Gwasanaeth

Y nod yw darparu gwasanaeth o ansawdd i aelodau trwy roi arweiniad ar rwymedigaethau a chyfrifoldebau statudol a thrwy osod targedau ar gyfer Cyflogwyr a’r Awdurdod Gweinyddu:-

  • I ddarparu gwybodaeth gywir
  • I weithredu ar yr wybodaeth honno, ac ymateb iddi, o fewn cyfnod penodol o amser

Cytunir ar unrhyw dargedau ar gyfer y Cytundebau Lefel Gwasanaeth, ymlaen llaw.

Canllaw’r Cyflogwyr

Mae'r Canllaw gweithdrefn newydd i’r Cyflogwyr yn y broses o gael ei gwblhau, a bydd yn cael ei ddosbarthu yn electronig i bob Corff Cyflogi.

Gwefan

Lansiwyd gwefan Gwynedd ym mis Mawrth 2009. Mae'r adran rydych yn edrych arno ar hyn o bryd yn ymroddedig i gyflogwyr yn y gronfa. Mae wedi'i gynllunio i ddarparu'r arweiniad a'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y cyflogwyr sy'n ffurfio rhan o'n cronfa. Mae hefyd yn cynnwys y ffurflenni y mae angen cwblhau mewn perthynas i newidiadau mewn amgylchiadau ar gyfer aelodau actif. Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru yn gyson wrth i wybodaeth newydd gael ei ryddhau.