Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yn ffordd o gynilo arian tuag at eich pensiwn. Unwaith y bydd wedi’i ddechrau, ni ellir rhyddhau unrhyw werth o’r gronfa hyd nes y byddwch yn cymryd prif fuddion eich cynllun.

Mae gan bob cronfa bensiwn llywodraeth leol gynllun CGY mewnol. Mae cyfraniadau’n cael eu didynnu o’ch cyflog cyn treth, felly maent yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn y dreth ar eich graddfa treth (e.e. 20% neu 40%). Bydd yr arian sy’n cael ei ddidynnu yn cael ei fuddsoddi mewn cronfa o’ch dewis gyda darparwr CGY Gwynedd, sef Clerical Medical.

Mae'r telerau yn wahanol i'r aelodau sydd wedi dechrau talu i'r CGY cyn 1af Ebrill 2014. Cliciwch ar y ddolen perthnasol isod am fwy o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael: