Newidiadau i bensiynau goroeswyr priodasau yr un rhyw a phartneriaid sifil

Dyddiad: 5th Gorffennaf 2019

Yn dilyn cyflwyno newidiadau  i’r Rheoliadau (LGPS (Miscellaneous Amendment) Regulations 2018) a ddaeth i rym gydag effaith o’r 10/01/2019, mae’r pensiynau a delir i oroeswr partneriaeth sifil neu briodas yr un rhyw i’w huwchraddio i gyfateb i’r hyn a fyddai yn daladwy i wraig weddw sydd yn goroesi aelod gwryw.

Mae’r newid hwn yn ganlyniad i achos Walker v Innospec yn  y Goruchaf Lys  pan ddyfarnwyd bod gan oroeswr gwryw Mr Walker hawl i dderbyn pensiwn yn cyfateb i’r hyn fyddai wedi ei dalu pe byddai Mr Walker wedi ei oroesi gan wraig weddw o briodas rhyw gwahanol.

Cred y llywodraeth bod y dyfarniad hwn yn golygu y dylai cynlluniau pensiwn sector gyhoeddus gan gynnwys Y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ddarparu  pensiynau goroeswr i bartner sifil neu weddw o briodas yr un rhyw sydd yn gyfartal i’r hyn fyddai yn daladwy i wraig weddw.

Mae y newidiadau hyn angen eu hol-ddyddio i’r dyddiadau pan ddaeth partneriaethau sifil a phriodasau yr un rhyw i fodolaeth sef 05/12/2005 a 13/03/2014.

Golyga hyn os bu i aelod o’r cynllun farw gan adael partner sifil neu gymar priod o’r un rhyw, mae angen adolygu y pensiwn a delir, ac os yn berthnasol ail gyfrifo y pensiwn goroeswr a thalu unrhyw symiau sydd yn awr yn daladwy. Os y credwch eich bod yn y categori yma cysylltwch a’r swyddfa hon cyn gynted a phosib i wneud cais am adolygiad.