Diweddariad Coronafirws

Dyddiad: 24th Mawrth 2020

Annwyl aelodau

 

Mae'r sefyllfa o amgylch Coronavirws yn symud yn gyflym, fodd bynnag, gallwn eich sicrhau ein bod yn monitro hyn yn agos ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu gwasanaeth mor llawn â phosibl tra hefyd yn cadw at y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y DU i reoli unrhyw ganlyniadau i'n aelodau, staff a'u teuluoedd.

 

Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Llywodraeth yn annog gweithio gartref lle bo hynny'n bosibl, gallwn gynghori y bydd Cronfa Bensiwn Gwynedd, o ddydd Mawrth 24 Mawrth, yn gweithredu gwasanaeth gyfyngedig a fydd yn galluogi staff i gydymffurfio â'r cyngor hwn.

 

Mae mesurau ar waith i sicrhau y gallwn barhau i dalu pensiynau a gweinyddu'r cynllun wrth ddelio ag unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol, megis budd-daliadau marwolaeth a budd-daliadau ymddeol. Fodd bynnag, trwy gyfyngu mynediad i'n swyddfeydd, bydd tarfu ar wasanaethau argraffu a phost sy'n debygol o arwain at oedi cyn inni ymateb i unrhyw geisiadau / ymholiadau post ac oedi pellach wrth i ohebiaeth gael ei phostio gennym.

 

Byddem yn gofyn ichi ystyried cysylltu â ni yn ystod yr amser hwn dim ond os ydych yn ein hysbysu am farwolaeth aelod neu os yw'ch ymholiad mewn perthynas â thalu'ch buddion ymddeol, gellir dod o hyd i'r ateb i'r mwyafrif o ymholiadau mewn perthynas â'ch pensiwn. trwy ymweld â'n gwefan www.cronfabensiwngwynedd.llyw.cymru

 

Os oes angen i chi gysylltu â ni byddem yn argymell gwneud hynny drwy anfon e-bost at: pens@gwynedd.llyw.cymru neu, fel dewis olaf ffonio ni ar 01286 679 982.

 

Byddem hefyd yn eich annog i gofrestru ar gyfer ein safle we Hunan Wasanaeth Aeoldau, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, lle gallwch wneud cyfrifiadau amcangyfrif ymddeol eich hun, diweddaru eich cyfeiriad a llawer mwy. Gallwch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn yn: https://aelodau.cronfabensiwngwynedd.cymru/

 

Yn olaf, bu llawer o sôn yn y newyddion yn ddiweddar am y cwymp mewn marchnadoedd stoc a’r effaith ganlyniadol bosibl ar bensiynau, fodd bynnag, hoffem eich sicrhau nad yw eich pensiwn budd diffiniedig CPLlL yn gysylltiedig â pherfformiad y farchnad stoc ac mae’r buddion wedi'i nodi mewn statud. Felly gall ein haelodau fod yn sicr na fydd unrhyw effaith ar eu cyfraniadau a'u pensiwn. Sylwch nad yw'r datganiad hwn yn berthnasol i unrhyw gyfraniadau CGY (AVC) mewnol y gallech fod yn eu talu i'n darparwr mewnol Clerical Medical a allai gael ei effeithio gan y cwymp mewn marchnadoedd stoc.

 

Sylwch fod y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar y coronafirws (COVID-19) i'w gweld ar wefan y GIG https://www.nhs.uk/conditions/coronavirus-covid-19/

 

Diolch yn fawr

Meirion Jones

Rheolwr Pensiynau