Datganiadau Buddion Blynyddol 2021-22

Dyddiad: 5th Awst 2022

Annwyl aelod 

Mae eich Datganiad Buddion Blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth 2021/12 bellach wedi'i lwytho i’ch dudalen Fy Mhensiwn Arlein. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, cliciwch yma i logio i mewn.

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer HWA eto, cliciwch yma i gychwyn y broses gofrestru. Ar ôl cwblhau'r ffurflen ar-lein, anfonir e-bost atoch chi (fel arfer o fewn 48 awr yn ystod yr wythnos waith) i sefydlu'ch cyfrif. Yn hytrach na defnyddio cyfeiriad e-bost gwaith mae cyfeiriad e-bost personol yn fwy buddiol.

I gyd-fynd â'r datganiad, cyhoeddwyd newyddlen 2022 hefyd. Cliciwch yma am gopi.

Os ydych chi wedi dewis i dderbyn cyfathrebu drwy'r post, yna mae eich datganiad wedi cael ei anfon yn y post ddiwedd mis Gorffennaf 2022. Os nad ydych am dderbyn cyfathrebu’n electronig, cadarnhewch yn ysgrifenedig i: Cronfa Bensiwn Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH neu drwy e-bost i pensiynau@gwynedd.llyw.cymru

Diolch

Cronfa Bensiwn Gwynedd