Cynnydd Pensiwn 2025

Dyddiad: 30th Ebrill 2025

Rydym yn ysgrifennu i roi gwybod i chi am newid i'r amserlen dalu ar gyfer y cynnydd pensiwn a oedd i fod i gael ei gymhwyso o 7fed Ebrill 2025.

Oherwydd gwall gweinyddol mewnol, ni fydd y cynnydd hwn yn cael ei adlewyrchu yn eich taliad mis Ebrill fel y cynlluniwyd. Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a allai gael ei achosi. Yn y cyfamser, byddwch yn parhau i dderbyn eich taliad pensiwn arferol, sef yr un swm gros a dderbyniwyd ym mis Mawrth.

Fe allwn eich sicrhau y byddwch yn derbyn y swm llawn o’r cynnydd, wedi'i ôl-ddyddio i 7fed Ebrill 2025, yn eich taliad ym mis Mai. Mae hyn yn golygu y bydd eich taliad ym mis Mai yn cynnwys swm eich pensiwn misol rheolaidd a'r ôl-ddyledion a gronnwyd o gynnydd mis Ebrill. Rydym yn deall pa mor bwysig yw derbyn eich taliadau pensiwn yn gywir ac ar amser, ac rydym yn cymryd camau i atal gwallau tebyg rhag ddigwydd yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.