Dyddiad: 1st Tachwedd 2022
Ar 19 Hydref 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai cyfradd chwyddiant Mynegai Prisiau'r Defnyddiwr (CPI) ar gyfer Medi 2022 oedd 10.1 y cant. Polisi'r Llywodraeth yn y blynyddoedd diwethaf fu i seilio codiadau o dan y Ddeddf (Cynnydd) Pensiynau 1971 ac ailbrisio cyfrifon pensiwn o dan adran 9 o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn unol â chyfradd CPI ym mis Medi'r flwyddyn flaenorol. Rydym yn aros am gadarnhad gan y Llywodraeth y bydd ailbrisio a chynnydd phensiynau a fydd yn berthnasol i gyfrifon pensiwn gweithredol CPLlL, pensiynau gohiriedig a'r pensiynau sydd mewn taliad yn 10.1 y cant ym mis Ebrill 2023.