Buddsoddi mewn cwmniau sy'n ymwneud a ffracio

Dyddiad: 10th Medi 2018

Annwyl gyfeillion,

Efallai eich bod wedi clywed honiadau drwy ebost, neu yn y cyfryngau yn ddiweddar, am gronfeydd pensiwn Cymru yn buddsoddi mewn cwmnïau maes tanwydd ffosil, neu sy’n ymwneud a ffracio.  Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd, ymysg holl gronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, wedi cael ei enwi fel un o’r cronfeydd hynny.  Ni allwn gadarnhau na chywiro ffigyrau Cyfeillion y Ddaear am ein buddsoddiad, gan eu bod yn aneglur am ddiffiniad cwmni sy’n ymwneud a ffracio a ddim yn fanwl wrth awgrymu daeth eu ffigurau o rhyw adeg yn ystod 2016/17.

Gallwn gadarnhau nad ydym yn buddsoddi mewn unrhyw gwmni sy'n ymgymryd â gweithgaredd ffracio’n unig.  Defnyddir rheolwyr asedau ecwiti byd-eang sy’n cynnwys 'dewiswyr stoc', ond nid yw’r rheiny’n dewis cwmnïau tanwydd ffosil.  Hefyd, mae gennym reolwyr asedau ecwiti goddefol, sy’n tracio’r mynegai gyda holl gwmnïau’r ‘FT’ yn eu portffolios.  Efallai bod gan rai o'r cwmnïau mawr rheiny gyfran fach o incwm o ffracio, e.e. deallwn fod Shell a BP yn ffracio am gas yn Texas.

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn fuddsoddwr hirdymor sy'n ceisio darparu cronfa bensiwn cynaliadwy i'r holl ran-ddeiliaid.  Dyletswydd sylfaenol Cyngor Gwynedd, fel awdurdod ymddiriedol y Gronfa, yw i weithredu yn niddordebau gorau cyflogwyr ac aelodau'r cynllun pensiwn.  Mae hynny’n golygu cynhyrchu dychweliadau digonol o fuddsoddiadau er mwyn talu pensiynau aelodau'r cynllun, ac i amddiffyn trethdalwyr a chyflogwyr lleol rhag costau pensiwn anghynaladwy. 

Er mwyn cyflawni'r ddyletswydd ymddiriedol yma, mae’r Gronfa wedi ffurfio a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Buddsoddi, a fabwysiadwyd mewn ymgynghoriad â'r holl bartïon sy'n ymwneud â'r Gronfa, yn nodi'n dryloyw y polisi buddsoddi cyfrifol.  Mae'r rôl o ddewis stoc wedi’i ddirprwyo i reolwyr asedau, hynny yw cwmnïau buddsoddi arbenigol sy’n asesu rhagolygon ariannol hirdymor cwmnïau unigol wrth lunio portffolios ar ran y Gronfa.

Lle mae’n berchen ar gyfranddaliadau ecwiti, gall y Gronfa, ei ymgynghorwyr a rheolwyr asedau ymgysylltu â chwmnïau i ddeall datblygiad eu cynlluniau busnes, gan gynnwys cynlluniau’r cwmni ar gyfer dyfodol carbon isel, a'u rheolaeth risg.  Bydd hyn yn gyrru penderfyniadau buddsoddi ac yn caniatáu i'r Gronfa roi pwysau ar reolaeth cwmnïau i gynyddu eu hymdrechion mewn rhai meysydd fel carbon, lle'n briodol.

Mae Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a Bwrdd Pensiwn y Gronfa, gyda swyddogion y Gronfa ac ymgynghorwyr annibynnol wedi bod yn ystyried 'buddsoddi cyfrifol' yn ddiweddar, gan flaenoriaethu ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, ac wedi datblygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol.  Cytunodd y Pwyllgor Pensiynau ar egwyddorion perthnasol ar 15 Mawrth 2018, a chymeradwywyd y rhain wedyn gan y Bwrdd.  Ar 8 Tachwedd bydd y Pwyllgor yn trafod Datganiad Strategaeth Buddsoddi ddiwygiedig, gan gynnwys yr egwyddorion buddsoddi cyfrifol cytunedig.

Sefydlwyd Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ddiweddar ac mae’r bartneriaeth wedi caffael llwyfan fydd yn caniatáu i'r 8 Cronfa Cymreig weithredu eu strategaethau buddsoddi.  Wrth benodi Link Asset Services fel gweithredwr y llwyfan, mewn partneriaeth â Russell Investments fel rheolwr buddsoddi, eglurwyd y gofynion i gydymffurfio â Deddf Cenhedlaeth y Dyfodol 2015.

Gydag un lygad ar newid yn yr hinsawdd, mae’r 8 cronfa Cymreig yn datblygu eu egwyddorion buddsoddi cyfrifol, tra mae Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ymgysylltu i ddatblygu polisïau fydd yn adlewyrchu egwyddorion buddsoddi'r 8 cronfa.  Ar ran y bartneriaeth, mae Russell Investments yn edrych ar risgiau newid yn yr hinsawdd trwy ystyried meini prawf Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu.

Bydd hyn yn cynnwys ymgorffori egwyddorion buddsoddi cyfrifol cytunedig ym mhrosesau dethol rheolwyr ac mewn polisïau pleidleisio.  Byddwn yn gweithio ar bolisi buddsoddi cyfrifol cyffredin ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, ond nid yw dad-fuddsoddiad mewn categorïau o stoc (fel tanwydd ffosil) wedi cael ei ystyried eto.  Cyn gwneud hynny, byddai raid i bob un o'r 8 awdurdod cyfansoddol gytuno, fel agwedd o bolisi buddsoddi cynaliadwy cyffredin.

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd, ynghyd a'r 7 cronfa bensiwn Cymreig arall, hefyd yn aelodau o Fforwm Cronfeydd Pensiwn yr Awdurdodau Lleol (LAPFF).  Rydym wedi cefnogi gweithgarwch ymgysylltu’r LAPFF ar faterion yn cynnwys newid yn yr hinsawdd.  Yn benodol, wrth ymgysylltu mae LAPFF "yn annog cwmnïau i alinio eu modelau busnes gyda senario 2 radd Celsius er mwyn gwthio trosglwyddo trefnus i economi carbon isel".

Hyderaf y bydd y manylion hyn yn eich argyhoeddi bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn buddsoddi'n gyfrifol, tra'n gwerthfawrogi na ellir caniatáu i werthoedd gwleidyddol gyfaddawdu’r ddyletswydd ymddiriedol i aelodau'r cynllun pensiwn.

Dafydd L. Edwards
Pennaeth Cyllid