Buddion Goroeswr: Partner Sy'n Cyd Fyw

Dyddiad: 17th Awst 2018

Yn dilyn dyfarniad yn yr Uchel Lys ar 18 Ionawr 2018, pe bai aelod wedi talu i mewn i'r CPLlL ar ôl 1 Ebrill 2008, mae'r angen oedd yn bodoli  i enwebu partner i fod yn gymwys i dderbyn pensiwn partner sy'n cyd-fyw wedi'i ddileu.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn pensiwn  goroeswr yn sgil hawliau pensiwn aelodau gyda aelodaeth wedi ei gronni ar ol 31/3/08 ac a  fu farw  cyn 1/4/14,  rhaid i’r holl amgylchiadau sydd wedi eu nodi  isod cael eu bodloni am gyfnod parhaus o o leiaf dwy flynedd yn arwain at  ddyddiad marwolaeth yr aelod.

Amodau ar gyfer cais dilys gan bartner sy’n cyd-fyw:

  • Eich bod ill dau yn rhydd i briodi eich gilydd neu i ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch gilydd, ac;
  • Eich bod wedi cyd-fyw fel gŵr a gwraig neu fel partneriaeth sifil, ac;
  • Nad oedd y naill  na’r llall ohonoch wedi  cyd-fyw â rhywun arall fel gŵr a gwraig neu bartneriaid sifil, ac;
  • Roeddech yn ddibynnol ar eich gilydd yn ariannol neu eich bod chi yn ddibynnol yn ariannol ar yr aelod o’r Cynllun (ystyr ‘dibynnol yn ariannol’ yw eich bod yn dibynnu ar arian y nail a’r llall i gynnal eich safon byw). Fel enghraifft, cadarnhad eich bod wedi byw yn yr un cartref gan rannu costau cynnal y cartref, neu fod gennych gyfrif banc neu forgais yn enw’r ddau bartner

Os ydych yn  credu bod gennych hawl i bensiwn goroeswr o dan yr amodau o uchod, cysylltwch â ni trwy lythyr neu e-bost.