Dyddiad: 17th Mawrth 2020
Mae llawer o sôn wedi bod ar y newyddion yn ddiweddar am y cwymp yn y marchnadoedd stoc a'r effaith ganlyniadol bosibl ar bensiynau cyfraniadau diffiniedig.
Nid yw pensiynau buddion diffiniedig fel y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn gysylltiedig â pherfformiad y farchnad stoc gan ei nodir mewn statud.
Er y gall gwerthoedd buddsoddi amrywio yn y tymor byr, mae'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn buddsoddi dros dymor hir ac yn cael ei reoli'n ddiogel i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau tymor hir.
Felly gall aelodau CPLlL fod yn sicr na fydd unrhyw effaith ar eu cyfraniadau a'u pensiwn, p'un a ydynt yn cael eu talu neu eu hadeiladu ar hyn o bryd.