Pwy all Ymuno?

I fod yn gymwys i ymuno â’r CPLlL, mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn iau na 75 mlwydd oed
  • Fod yn Gynghorydd cymwys

I fod yn Gynghorydd cymwys, rhaid i chi fod yn Gynghorydd Cyngor Sir neu Gyngor Sir Bwrdeistrefol yng Nghymru a chael cynnig aelodaeth o’r cynllun dan gynllun lwfansau’r Cyngor.

Bydd pob Cyngor yn penderfynu os ydynt am gynnig aelodaeth i’w Cynghorwyr a’i peidio. Felly, a fyddech gystal â gwirio gyda’ch Cyngor os ydych yn gymwys i fod yn aelod o’r cynllun. 

Os bydd eich Cyngor yn cynnig aelodaeth i chi, eich cyfrifoldeb chi fydd gwneud y penderfyniad i ymuno â’r CPLlL neu beidio. Gweler yr adran Atodiadau isod ar gyfer y dogfennau sydd yn y pecyn cychwynol. 

Yn dilyn eich ethol, gwiriwch eich slip tâl er mwyn sicrhau fod y cyfraniadau pensiwn yn cael eu tynnu. 

Atodiadau

Ffurflen Gychwynol

Llyfryn

Ffurflen Grant Marwolaeth