Optio Allan

Unwaith rydych wedi cael eich cofrestru yn y Cynllun, mae gennych yr hawl i optio allan. I wneud hyn, rhaid gwneud cais am ffurflen optio allan drwy gysylltu gyda’r Adran Bensiynau drwy ffonio 01286 679982, e-bostio pensiynau@gwynedd.llyw.cymru neu lawr lwytho copi yn yr adran Atodiadau isod.

Bydd rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen yn syth i’ch cyflogwr.

Pan fydd y cyflogwr yn derbyn eich ffurflen, byddant yn atal cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog.

Os ydych wedi bod yn y cynllun am lai na 2 flynedd, a'ch bod heb unrhyw fuddion mewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall, bydd y cyfraniadau yn cael eu had-dalu (llai unrhyw ddidyniad treth berthnasol).

Os ydych wedi bod yn y cynllun am fwy na 2 flynedd, neu fod gennych fuddion mewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall, bydd y cyfraniadau yn aros yn y Cynllun, a bydd y pensiwn yn cael ei ohirio nes i chi ymddeol, neu drosglwyddo eich buddion i gynllun arall.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml gyda Optio Allan

Pa fuddion byddaf yn eu colli wrth optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)?

Drwy optio allan o’r CPLlL rydych yn colli'r buddion gwerthfawr yma: 

  • Pensiwn wedi ei warantu, sydd yn cynyddu yn flynyddol, yn daladwy am oes ac yn seiliedig      ar eich cyflog.
  • Opsiwn i dderbyn lwmp swm di dreth pan fyddwch yn ymddeol.
  • Lwmp swm grant marwolaeth o dair gwaith eich cyflog os ydych yn marw, yn daladwy i’r bobl rydych wedi eu henwebu.
  • Pensiwn  ar gyfer eich gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner sy’n cyd-fyw.
  • Pensiwn os ydych rhy wael i weithio.
  • Ymddeoliad cynnar os ydych yn 55 mlwydd oed neu hŷn ac yn cael eich diswyddo.
  • Rhyddhad treth ar eich cyfraniadau.
  • Opsiynau i’ch helpu i gael mwy o fuddion drwy dalu cyfraniadau ychwanegol.
  • Cyfraniadau gan eich cyflogwr.

Beth rhaid i mi wneud i optio allan?

Er mwyn optio allan cwblhewch y ffurflen yn yr adran atodiadau isod a'i dychwelyd at eich cyflogwr. Bydd cyfraniadau pensiwn yn cael eu hatal o’r gyflogres nesaf sydd ar gael. Os oes gennych aelodaeth o lai na dwy flynedd byddwch yn derbyn ad-daliad o'ch cyfraniadau llai rhyddhad treth. Os oes gennych aelodaeth o ddwy flynedd neu fwy yna bydd eich buddion yn cael eu rhewi yn y cynllun pensiwn nes oed ymddeol.

Ydych wedi ystyried yr Adran 50/50 yn hytrach nag optio allan?

Gallai'r Adran 50/50 fod yn opsiwn arall yn lle optio allan. O dan yr Adran 50/50 mae gennych y dewis i dalu hanner eich cyfraniadau arferol i gronni hanner y pensiwn arferol yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, byddwch yn parhau i gael yswiriant bywyd llawn, yswiriant salwch llawn a buddion goroeswr llawn pe byddech yn marw.

Am fwy o wybodaeth a Ffurflen Etholiad Adran 50/50 cliciwch yma.

A allaf ail-ymuno a’r CPLlL yn y dyfodol?

Gallwch, mae’n bosib ail ymuno’r CPLlL ar unrhyw adeg yn y dyfodol os ydych o dan 75 mlwydd oed ac yn parhau i weithio gyda chyflogwr sydd yn cynnig aelodaeth o’r CPLlL. Cysylltwch â Chronfa Bensiwn Gwynedd neu eich cyflogwr am ffurflen gychwynnol. Noder ni fyddwch yn gallu cyfuno unrhyw fuddion gohiriedig yr oeddech wedi cronni os byddwch yn penderfynu ail-ymuno â'r CPLlL yn y dyfodol.

A fyddaf yn cael fy ail-gofrestru yn ôl i mewn i’r Cynllun Pensiwn?

Er mwyn annog mwy o bobl i gynilo tuag at eu pensiwn, o dan ddeddfwriaeth DU mae’n ofyniad i bob cyflogwr gofrestru eu gweithwyr i gynllun pensiwn yn y gwaith os nid ydynt mewn un yn barod.  Yr amcan yw helpu mwy o bobl i gael incwm ychwanegol, ar ben eu pensiwn y wlad, pan maent yn ymddeol. Os ydych yn optio allan bydd eich cyflogwr yn eich ail gofrestru i’r CPLlL oddeutu bob 3 blynedd o’r dyddiad y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r darpariaethau ail-gofrestru awtomatig.

A all fy nghyflogwr ofyn i mi neu fy ngorfodi i ymuno â’r Adran 50/50?

NI ALL eich cyflogwr ofyn i chi neu eich gorfodi i optio allan o’r cynllun. Fodd bynnag, os dyma’r achos, gallwch roi gwybod i’r Rheoleiddiwr Pensiynau drwy fynd i’w gwefan:  www.thepensionsregulator.gov.uk

Atodiadau

Ffurflen Optio Allan