Pryd Gallaf Ymddeol?

Yr oed ymddeol arferol yn y Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol yw 65.

Fodd bynnag, mae’n bosib i chi ymddeol yn gynnar a derbyn eich budd-dal pensiwn o 60 oed ymlaen neu, mewn rhai amgylchiadau, o 55 oed ymlaen. Fel arall, os byddwch yn penderfynu gweithio y tu hwnt i 65 oed gallwch barhau i fod yn aelod o’r cynllun hyd at ddiwrnod cyn eich pen-blwydd yn 75 oed.

Gellir talu eich budd-daliadau pensiwn beth bynnag yw’ch oed os oes raid i chi ymddeol ar sail iechyd.   Gweler isod am wybodaeth bellach ar y gwahanol fathau o ymddeoliad ac unrhyw gyfyngiadau isafswm oed a allai fod yn berthnasol:

Ymddeoliad cynnar

Ymddeol yn wirfoddol rhwng 60 – 64 oed

Gallwch ddewis ymddeol yn gynnar a derbyn eich budd-daliadau pensiwn o Gronfa Bensiwn Gwynedd unrhyw bryd o 60 oed ymlaen. Pe byddech yn penderfynu ymddeol rhwng 60 a 64 oed, nid oes angen caniatâd eich cyngor arnoch, fodd bynnag, bydd gofyn i chi roi gwybod iddynt am eich bwriad i ymddeol.

Ymddeol yn wirfoddol rhwng 55 – 60 oed

Gallwch ddewis ymddeol yn gynnar a derbyn eich budd-daliadau pensiwn unrhyw bryd o 55 i 59 oed, fodd bynnag, bydd hyn ddim ond yn bosib gyda chaniatâd eich cyflogwr. Bydd gan eich cyflogwr bolisi yn manylu sut bydd yn ymdrin â cheisiadau i ymddeol rhwng 55 a 59 oed.

Gostyngiadau pe byddech yn ymddeol yn gynnar.

Wrth ymddeol yn gynnar, bydd y pensiwn a’r lwmp swm ymddeol y byddwch yn eu derbyn yn seiliedig ar yr aelodaeth yr ydych wedi’i chronni hyd at ddyddiad yr ymddeoliad.

Os ydych wedi ymuno â’r cynllun ar neu ar ôl Hydref 1af 2006, ac yn ymddeol cyn 65 oed, bydd eich pensiwn a’ch lwmp swm ymddeol yn cael eu gostwng gan eu bod yn cael eu talu’n gynnar ac, o bosib, am yn hwy. Bydd y gostyngiad yn cael ei weithredu fel canran o’ch pensiwn a’ch lwmp swm. Po agosaf ydych at 65 oed pan fyddwch yn ymddeol, y lleiaf y bydd y gostyngiad.   Os oeddech chi yng Nghynllun Pensiwn yr Awdurdod Lleol ar 30 Medi 2006 ac y byddech wedi bodloni’r rheol 85 mlynedd  wrth ymddeol, gallai’ch budd-daliadau i gyd, neu ran ohonynt, fod wedi’u gwarchod rhag y gostyngiad.

Os ydych yn ymddeol yn wirfoddol cyn 65 oed, gallwch ddewis cadw eich budd-daliadau yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd hyd at ddyddiad hwyrach fel na weithredir unrhyw ostyngiad i’ch budd-daliadau, neu fod y gostyngiad yn llai.

Ymddeoliad hwyr

Pe byddech yn dewis parhau i weithio ar ôl 65 oed gallech barhau i dalu i mewn i Gronfa Bensiwn Gwynedd ac adeiladu mwy o fudd-daliadau yn y cynllun.

Gallech ddewis derbyn eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol neu’n hwyrach, ond rhaid i’ch pensiwn gael ei dalu i chi erbyn eich pen-blwydd yn 75 oed.

Os ydych yn tynnu eich pensiwn ar ôl 65 oed bydd y pensiwn yn cael ei chwyddo pan fydd yn daladwy er mwyn ystyried ei fod yn cael ei dalu am gyfnod byrrach.

Ymddeoliad salwch

Os oes gennych o leiaf 3 mis o aelodaeth fel Cynghorwr yng Nghronfa Bensiwn Gwynedd a bod Meddyg Cofrestredig Annibynnol a gymeradwywyd ynn tystio na allwch ymgymryd â dyletswyddau eich swydd, a hynny’n barhaus, tan eich penblwydd yn 65, o ganlyniad i salwch neu wendid meddwl neu gorff, byddwch yn derbyn eich pensiwn a’ch lwmp swm yn syth.

Rhaid i’r meddyg fod wedi cymhwyso mewn meddygaeth galwedigaethol, wedi ei gymeradwyo gan Chronfa Bensiwn Gwynedd, a ni ddylai fod wedi bod yn rhan o’ch achos o’r blaen.    Os ydych yn gymwys i ymddeol ar sail iechyd, bydd lefel y buddion pensiwn y byddwch yn ei dderbyn yn cael ei gyfrifo wrth ystyried eich cyfartaledd cyflog gyrfa a’ch aelodaeth yn y cynllun.  Ond os yw eich cyfanswm aelodaeth yn 5 mlynedd neu fwy, bydd eich cyfanswm aelodaeth yn cael ei gynyddu fel amlinellir isod:

  • Cyfanswm aelodaeth o llai na 5 mlynedd = Dim cynydd yn eich aelodaeth
  • Cyfanswm aelodaeth rhwng 5 a 10 mlynedd = Cyfanswm aelodaeth yn cael ei ddyblu.
  • Cyfanswm aelodaeth rhwng 10 a 13 1/3 mlynedd = Cyfanswm aelodaeth yn cael ei gynyddu i 20 mlynedd.
  • Cyfanswm aelodaeth dros 13 1/3 mlynedd = Cyfanswm aelodaeth yn cael ei gynyddu 6 2/3 blynedd.

Ni ddylai’ch aelodaeth cynyddol, fodd bynnag, fod yn hwy na’r cyfanswm aelodaeth y byddech wedi ei gronni pe baech wedi parhau i weithio hyd at 65 oed.