Cyfrifo'r Buddion

Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014 (CPLlL 2014) yn gynllun cyfartaledd gyrfa. Mae hefyd yn cael ei alw’n gynllun Cyfartaledd Cyflog Gyrfa wedi’i Adbrisio (sydd yn cael ei dalfyrru i CARE yn Saesneg). Pan yn sôn am CPLlL 2014, mae’r ddau derm yma yn cyfeirio at yr un dull o gyfrifo eich pensiwn, fel y disgrifir isod.

Buddion wedi'u diffinio

Mae CPLlL 2014 yn gynllun pensiwn gyda buddion wedi’u diffinio. Mae cynlluniau gyda buddion wedi’u diffinio – yn cynnwys pensiwn cyfartaledd gyrfa – yn cyfrifo’r pensiwn yn defnyddio fformiwla. Yn y CPLlL 2014, y fformiwla yw:

Pensiwn = Aelodaeth x Graddfa gronni x Tâl Pensiynadwy

Mewn cynllun cyfartaledd gyrfa, mae tâl pensiynadwy pob blwyddyn yn cael ei ddefnyddio i gyrifo’r pensiwn am y flwyddyn honno. Mae pensiwn pob blwyddyn yna’n cael ei adbrisio (h.y. gynyddu) gyda chwyddiant. Mae pensiwn wedi’i adbrisio pob blwyddyn yna’n cael eu cyfuno i roi’r cyfanswm pensiwn. Felly mae’r cyfanswm yn cronni fel a ganlyn:

Pensiwn blwyddyn 1 x adbrisio, a Pensiwn blwyddyn 2 x adbrisio, a Pensiwn blwyddyn 3 x adbrisio Ac yn y blaen…nes, a Pensiwn blwyddyn olaf

Felly, edrychwn ar bob rhan o’r fformiwla uchod…

Aelodaeth

Fel rheol, hyn yw’r cyfnod yr ydych yn talu i’r cynllun pensiwn, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel gwasanaeth pensiynadwy. Mae’n cael ei fesur mewn diwrnodiau, ond er mwyn symlrwydd mae’r esiamplau yn defnyddio blynyddoedd llawn.

Graddfa gronni

Y raddfa gronni yw’r gyfran o’ch tâl pensiynadwy sydd yn cael ei adio i’ch pensiwn bob blwyddyn o aelodaeth. Mae’r raddfa fel rheol yn cael ei dangos fel ffracsiwn. Ar gyfer y CPLlL 2014, y raddfa gronni yw 1/49fed. Mae hyn yn golygu, am bob blwyddyn o aelodaeth, byddwch yn cronni 1/49fed o’ch tâl pensiynadwy am y flwyddyn honno. Os ydych yn dewis yr opsiwn 50/50, byddwch yn cronni hanner y pensiwn ar y raddfa o 1/98 o'ch tâl pensiynadwy.

Tâl pensiynadwy

Y tâl pensiynadwy yw’r cyfanswm yr ydych yn ennill am weithio yn cynnwys goramser, ac oriau ychwanegol i weithiwyr rhan amser. Hwn yw’r tâl yr ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ohono, a’r tâl y mae eich buddion yn seiliedig arno.

Y cyfrifiad sylfaenol

Rydym eisoes wedi egluro fod pensiwn pob blwyddyn yn ffracsiwn o gyflog y flwyddyn honno. Mae’r esiampl isod yn dangos sut mae’r pensiwn hwnnw yn cronni dros amser i ffurfio eich pensiwn terfynol.

Enghraifft 1

Eleni, mae Catrin wedi ennill £10,000 o dâl pensiynadwy, felly bydd yn cronni 1/49fed o’r tâl hwnnw fel pensiwn h.y. £10,000 x 1/49 = £204.08

Os byddai Catrin yn aelod o’r cynllun am 5 mlynedd a byddai dim codiadau cyflog na chwyddiant i gymryd i ystyriaeth, byddai ei phensiwn yn cronni fel â ganlyn:

Blwyddyn 1: £10,000 x 1/49 = £204.08
Blwyddyn 2: £10,000 x 1/49 = £204.08
Blwyddyn 3: £10,000 x 1/49 = £204.08
Blwyddyn 4: £10,000 x 1/49 = £204.08
Blwyddyn 5: £10,000 x 1/49 = £204.08

Cyfanswm:     £1,020.40 y flwyddyn

Er hynny, fel rheol mae cyflogau yn codi dros amser, ac mae’n rhaid ystyried chwyddiant er mwyn gweld sut mae adbrisio yn angenrheidiol i sicrhau nad ydi’r pensiwn yn colli ei werth.

Adbrisio

Un o nodweddion pwysicaf y CPLlL 2014 yw’r ffordd y mae eich pensiwn yn cael ei adbrisio wrth iddo gael ei gronni. Mae hyn yn bwysig gan y gall fod cyfnod o fwy na 40 mlynedd rhwng talu eich pensiwn cyntaf ac ymddeol. Dros y cyfnod yma, bydd gwir werth y pensiwn cynnar yn cael ei leihau gan effaith chwyddiant.

Er mwyn rhwystro hyn, mae’r CPLlL 2014 yn adbrisio pensiwn pob blwyddyn i gyd fynd gyda chwyddiant (CPI).

Enghraifft 2

Os na fyddai Catrin yn cael codiad cyflog, ond byddai chwyddiant yn 3% bob blwyddyn, byddai ei phensiwn yn cael ei adbrisio fel â ganlyn. Y pellaf yn ôl mae’r pensiwn wedi cael ei gronni, bydd yr adbrisio yn cael mwy o effaith arno. Mae hyn yn golygu y bydd y pensiwn yn uwch nag yn enghraifft 1:

Blwyddyn 1: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio = £229.70
Blwyddyn 2: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio =  £223.01
Blwyddyn 3: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio =  £216.51
Blwyddyn 4: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio =  £210.20
Blwyddyn 5: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio =  £204.08

Cyfanswm:        £1,083.50 y flwyddyn

Gallwch weld wrth gymharu â enghraifft 1, fod pensiwn y 4 blynedd gyntaf wedi cael ei gynyddu gyda chwyddiant. Blwyddyn 1 sydd wedi cael ei godi fwyaf gan mai hon yw’r flwyddyn gynharaf ac felly angen mwy o gynnydd i gadw’i werth yn erbyn chwyddiant.

Enghraifft 3

Pe byddai Catrin wedi cael codiadau cyflog, byddai hyn yn golygu fod y tâl pensiynadwy yn cael ei godi cyn adbrisio. Gyda chwyddiant yn 3% bob blwyddyn, a chodiad cyflog o £500 y flwyddyn, byddai pensiwn Catrin yn cael ei gyfrifo fel a welir isod:

Blwyddyn 1: £10,000 x 1/49 = £204.08 Wedi’i adbrisio = £229.70
Blwyddyn 2: £10,500 x 1/49 = £214.29 Wedi’i adbrisio =  £234.16
Blwyddyn 3: £11,000 x 1/49 = £224.49 Wedi’i adbrisio =  £238.16
Blwyddyn 4: £11,500 x 1/49 = £234.69 Wedi’i adbrisio =  £241.73
Blwyddyn 5: £12,000 x 1/49 = £244.90 Wedi’i adbrisio =  £244.90

Cyfanswm:        £1,188.65 y flwyddyn

Yn yr enghraifft yma felly, mae codiadau cyflog ac adbrisio wedi cael eu cynnwys yng nghyfrifiad pensiwn Catrin.

Lwmp swm di-dreth

Gallwch drawsnewid peth o’ch pensiwn blynyddol er mwyn cael lwmp swm wrth ymddeol. Am bob £1 o bensiwn sydd yn cael ei drosglwyddo, byddwch yn cael £12 o lwmp swm. Gallwch drosglwyddo i fyny at 25% o’ch buddion (yn cynnwys unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, yn dibynnu ar derfynau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi).

Enghraifft 4

Mae pensiwn Catrin ar ôl 5 mlynedd yn £1,188.65. A chymryd mai hwn yw ei unig bensiwn (ac eithirio pensiwn y wlad), gall gymryd uchafswm o £5,094.21 fel lwmp swm, yn ei gadael gyda pensiwn blynyddol o £764.13.