Faint Byddaf yn Talu?

Fel aelod actif o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwch yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Bydd y cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth y byddwch yn dalu.

Bydd y raddfa y byddwch yn dalu yn dibynnu ar eich cyflog. Mae’r bandiau cyflog o 1af o Ebrill 2023 wedi’u hamlinellu isod. Mi fydd yr amrediad cyflog ar gyfer pob band cyfraniadau yn newid bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw:

Band

Gwir dal cyflogaeth

Prif rhan

Rhan 50/50

1

HYd at £16,500

5.50%

2.75%

2

£16,501 i £25,900

5.80%

2.90%

3

£25,901 i £42,100

6.50%

3.25%

4

£42,101 i £53,300

6.80%

3.40%

5

£53,301 i £74,700

8.50%

4.25%

6

£74,701 i £105,900

9.90%

4.95%

7

£105,901 i £124,800

10.50%

5.25%

8

£124,801 i £187,200

11.40%

5.70%

9

£187,201 neu fwy

12.50%

6.25%

Mae’n ddyletswydd ar eich cyflogwr i roi gwybod i chi pa fand cyfrannu yr ydych yn ei dalu. Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gosod yn y band anghywir, cysylltwch â’ch cyflogwr.

Cyfraniadau gan y cyflogwr

Mae eich cyflogwr yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiant gan yr Actiwari yn cael ei gwblhau er mwyn cyfrifo faint ddylai eich cyflogwr fod yn ei gyfrannu at y cynllun.