Preifatrwydd a Chwcis

Preifatrwydd


Mae’n rhaid i chi gael sicrwydd er mwyn cael yr hyder i roi gwybodaeth breifat i Gronfa Bensiwn Gwynedd drwy ddefnyddio ffurflenni ar-lein neu gais arall. Mae’n bwysig i ni, pan fyddwch yn dewis gwneud, bod eich preifatrwydd yn cael ei warchod bob amser, a’n bod ni yn ymddwyn mewn ffordd glir a chyfrifol.


Mae gwarchod eich gwybodaeth bersonol yn hynod bwysig – yr unig amser y byddwn angen yr wybodaeth yma fydd i ddarparu gwasanaethau a chreu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau eraill yn y dyfodol.
Mae unrhyw wybodaeth bersonol rydych yn ei roi i ni yn cael ei gadw mewn cronfeydd data sydd yn berchen i naill ai Gronfa Bensiwn Gwynedd neu gorff mae'r Gronfa yn ei defnyddio i ddarparu gwasanaeth(au) ar lein ar ei rhan.
Os na fydd gofyn drwy gyfraith - ni fyddwn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i gwmnïau, busnesau neu unigolion.

 

Cwcis


Pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan byddwn yn gofyn i chi dderbyn cwcis oddi ar y wefan hon. Os ydych yn dewis peidio â derbyn cwcis mae’n bosibl na fydd gwefan Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gweithio mewn modd mor soffistigedig.

Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio i roi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb. Gellir eu defnyddio hefyd i gofio manylion mewngofnodi ar gyfer rhai gwasanaethau.

Mae'r tabl isod yn egluro pa gwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham:

 

Cwci Enw Pwrpas
Ystadegau SiteImprove SiteAnalyze ASP.NET_SessionId Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi’r drefn y byddwch yn edrych ar dudalennau yn ystod eich ymweliad â’r wefan. Gall yr wybodaeth gael ei defnyddio er mwyn ceisio lleihau eich siwrnai chi fel cwsmer o fewn y safle, a’ch helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol yn gynt.
Cwci Cyngor Gwynedd dangos-neges-cwcis Pwrpas y cwci hwn yw cofnodi a ydych wedi derbyn cwcis oddi ar y wefan hon ai peidio. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei ddal yn y cwci hwn.

 

Gall Cronfa Bensiwn Gwynedd ddiweddaru’r termau yma ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arno i chi fel defnyddiwr.