Gadael Cyn Ymddeol

Os fyddwch yn gadael, neu’n dewis rhoi’r gorau i gyfrannu at y CPLlL cyn eich ymddeoliad, mae sawl opsiwn ar gael i chi.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth sy’n llai na 3 mis, dim hawliau pensiwn CPLlL blaenorol, gallwch:

  • Derbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau treth a chost eich ailosod yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P).
  • Trosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, ar wahân i Gynllun CPLlL arall.
  • Gadael eich cyfraniadau gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd.  Os byddwch yn ail ymuno gyda’r CPLlL fel cynghorwr gyda Chronfa Bensiwn gallwch dewis cyfuno eich buddion.

Os oes gennych gyfanswm aelodaeth o fwy na 3 mis, gallwch: 

  • Adael eich buddion gyda Chronfa Bensiwn Gwynedd hyd at yr adeg yr ydych yn cael ymddeol. Cyfeirir at hyn fel buddion gohiriedig. Bydd eich hawliau pensiwn yn cael eu cyfrifo ar y dyddiad pan fyddwch yn gadael ond bydd y taliad yn cael ei ohirio hyd at eich oedran ymddeol arferol.
  • Trosglwyddo eich buddion i drefniant newydd, ar wahân i Gynllun CPLlL arall.
  • Aros hyd nes i chi ailymuno â’r CPLlL fel cynghorwr gyda Chronfa Bensiwn a dewis cyfuno eich buddion.

Os ydych yn dymuno hawlio ad-daliad o’ch cyfraniadau, cysylltwch â’ch cyflogwr.

Gweler isod am fwy o wybodaeth am yr opsiynau uchod:

Ad-daliad

Os fyddwch yn dymuno hawlio ad-daliad o’r cyfraniadau yr ydych wedi’u talu i’r CPLlL, rhaid i chi:

  • Bod â llai na 3 mis o aelodaeth
  • Bod â dim hawliau pensiwn CPLlL arall.

Fel arfer, bydd y cyfanswm a ad-dalir yn llai na chyfanswm y cyfraniadau y byddwch wedi’u talu oherwydd:

  • Yn ystod eich aelodaeth CPLlL, byddwch wedi talu graddfa is o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gan nad ydych yn rhan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth (S2P). Wrth hawlio ad-daliad, bydd angen eich ailosod yn y S2P ac fe ddidynnir y gost o wneud hynny o’ch ad-daliad
  • Yn ogystal, didynnir treth ar raddfa o 20%

Ni fydd yr ad-daliad yn cynnwys y cyfraniadau a dalwyd gan eich cyflogwr. 

Cysylltwch â’ch cyflogwr os ydych eisiau cael eich eithrio o’r cynllun a hawlio ad-daliad. Yn dilyn yr ad-daliad, ni fydd gennych unrhyw hawl i dderbyn buddion dan y CPLlL.

Buddion Gohiriedig

Wrth adael y CPLlL cyn oed ymddeol arferol, bydd eich buddion pensiwn yn seiliedig ar ddau ffactor yn unig:

  • Cyfanswm eich aelodaeth hyd at y dyddiad terfynu
  • Eich cyfartaledd cyflog gyrfa.

Eich hawliau pensiwn bydd:

  • Pensiwn = Cyfartaledd cyflog gyrfa x aelodaeth ÷ 80
  • Lwmp swm = 3 x pensiwn blynyddol uchod

Bydd eich pensiwn gohiriedig yn cynyddu pob blwyddyn yn unol a chostau byw.

Trawsnewid pensiwn i lwmp swm

Bydd gan bob cynghorwr yr opsiwn i drawsnewid rhan o’u pensiwn i dderbyn lwmp swm yn rhydd o dreth.  Am bob £1 o bensiwn yr ydych yn ildio, byddwch yn derbyn lwmp swm o £12

Mae’r adain Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gosod cyfyngiad ar y pensiwn y gallwch ei drawsnewid.  Yr uchafswm pensiwn y gellir ei gymudo ar hyn o bryd yw 25% o werth cyfalaf eich buddion pensiwn, cyfrifir drwy defnyddio’r fformiwla canlynol:

  • Gwerth cyfalaf =[ (120 x Pensiwn) + (10 x Lwmp Swm) + (Cronfa CGY: os o gwbl) ] ÷ 7
  • Cyfanswm yr uchafswm lwmp swm = Gwerth cyfalaf x 25%

Os byddwch yn penderfynu cymudo rhan o’ch pensiwn yn lwmp swm, ni fydd hyn yn lleihau unrhyw fuddion goroeswr a fyddai’n daladwy yn dilyn eich marwolaeth.

Hawlio eich pensiwn gohiriedig

Am ragor o wybodaeth am pryd y gallwch hawlio’ch buddion gohiriedig, ewch draw i’r rhan pryd gallaf ymddeol ar y wefan hon.

Trosglwyddo buddion

Wedi i chi adael Cronfa Bensiwn Gwynedd fel Cynghorwr gyda hawl i fuddion gohiriedig, bydd gennych yr opsiwn i drosglwyddo’r buddion hyn i ddarparwr nad yw’n rhan o’r pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, megis:

  • Cynllun pensiwn eich cyflogwr newydd
  • Cynllun pensiwn personol
  • Cynllun pensiwn budd-ddeiliaid

Fe all hyn fod i gynllun tramor neu drefniant sydd wedi’i gymeradwyo’n llawn gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Pe baech yn dymuno ymchwilio i drosglwyddo eich buddion gohiriedig dylech gysylltu â gweinyddwr eich cynllun newydd er mwyn darganfod a ydynt yn fodlon ac yn medru derbyn trosglwyddiad o Gronfa CPLlL, a’r drefn ar gyfer gwneud hynny.

Os ydynt yn fodlon, byddent wedyn yn ysgrifennu atom ni yn gofyn am ddyfynbris o werth y trosglwyddiad ac yna’n rhoi gwybod i chi beth fydd gwerth eich buddion yn eu cynllun hwy.

Bydd yn gyfrifoldeb arnoch chi i gymharu’r buddion y byddai’r trosglwyddiad yn ei ddarparu gyda’r buddion y byddech yn ei dderbyn fel aelod gohiriedig o Gronfa Bensiwn Gwynedd.  Nid yw trosglwyddo’ch hawliau pensiwn yn benderfyniad sy’n hawdd i’w wneud pob tro ac efallai y dymunech cael cymorth gan ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Pe baech yn penderfynu trosglwyddo, ni fydd gennych hawliau pensiwn o fewn Cronfa Bensiwn Gwynedd wedyn. 

Bydd yn rhaid i chwi wneud cais i drosglwyddo’ch buddion o Gronfa Bensiwn Gwynedd o leiaf blwyddyn cyn eich pen-blwydd yn 65 oed.