Treth ac Eich Pensiwn

Telir eich pensiwn CPLlL yn fisol, ac mae’n drethadwy. Wrth ymddeol, bydd eich pensiwn yn cael ei drethu’n seiliedig ar y cod treth sydd ar eich P45, neu pan nad oes P45, yn seiliedig ar god treth Graddfa Sylfaenol . Bydd y swyddfa Dreth yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau yn eich cod treth a byddent hefyd yn rhoi gwybod i ninnau er mwyn i ni wneud y newidiadau perthnasol i’ch taliadau pensiwn. Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, byddwch yn derbyn P60 sy’n dangos faint o bensiwn a dalwyd a faint o dreth a ddidynnwyd yn ystod y flwyddyn.

Os hoffech wybod mwy am y dreth y byddwch yn ei thalu neu os oes gennych ymholiad ynghylch eich cod treth, dylech gysylltu â’r swyddfa drethi gan roi iddynt y rhif cyfeirnod 914 / B11081.

Manylion cyswllt y Swyddfa Dreth yw:

Rhif Ffôn Llinell Gymraeg: 0300 200 1900. 

Oriau agor ar gyfer galwadau ffôn: Dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb hyd 5.00yp. Ar gau ar benwythnosau a gwyliau’r banc.

Cyfeiriad:

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
Canolfan Gyswllt Gymraeg
Tŷ Moelwyn
Britannia Terrace
Porthmadog
Gwynedd
LL49 9AB