Optio Allan

Unwaith rydych wedi cael eich cofrestru yn y Cynllun, mae gennych yr hawl i optio allan. I wneud hyn, rhaid gwneud cais am ffurflen optio allan drwy gysylltu gyda’r Adran Bensiynau drwy ffonio 01286 679982, e-bostio pensiynau@gwynedd.llyw.cymru neu lawr lwytho copi yn yr adran Atodiadau isod.

Bydd rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen yn syth i’ch cyflogwr.

Pan fydd y cyflogwr yn derbyn eich ffurflen, byddant yn atal cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog.

Os ydych wedi bod yn y cynllun am lai na 3 mis, a'ch bod heb unrhyw fuddion mewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall, bydd y cyfraniadau yn cael eu had-dalu (llai unrhyw ddidyniad treth berthnasol).

Os ydych wedi bod yn y cynllun am 3 mis neu fwy, neu fod gennych fuddion mewn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall, bydd y cyfraniadau yn aros yn y Cynllun, a bydd y pensiwn yn cael ei ohirio nes i chi ymddeol, neu drosglwyddo eich buddion i gynllun arall.

Atodiadau

Ffurflen Optio Allan