Pwy All Ymuno?

Cyflogedigion â chytundeb cyflogaeth am fwy na 3 mis

Os ydych gyda chytundeb cyflogaeth sydd am fwy na 3 mis, byddwch yn cael eich ymaelodi’n awtomatig yn y cynllun, os ydych:

  • o dan oed 75, ac
  • yn gyflogedig gan gorff dynodedig, ac yn dod o dan ddynodiad y cyflogwr, neu
  • yn gyflogedig gan gorff mynediad, ac yn gymwys i ymaelodi o dan delerau’r cytundeb mynediad.

Dylech gwblhau ffurflen ymaelodi (CT108), a’i dychwelyd at eich cyflogwr i sicrhau bod y wybodaeth ar eich cofnod pensiwn yn gyfredol a chywir.

Cyflogedigion â chytundeb cyflogaeth am lai na 3 mis

Os ydych gyda chytundeb cyflogaeth am lai na 3 mis, mae gennych hawl i ymuno â’r cynllun, ond fod rhaid i chi ddewis gwneud hynny drwy gwblhau ffurflen ymaelodi (CT108), a chymryd eich bod:

  • o dan oed 75, ac
  • yn gyflogedig gan gorff dynodedig, ac yn dod o dan ddynodiad y cyflogwr, neu
  • yn gyflogedig gan gorff mynediad, ac yn gymwys i ymaelodi o dan delerau’r cytundeb mynediad.