Buddion Marwolaeth

Os byddwch yn marw ar ôl gadael y CPLlL a chyn i chi gymryd eich pensiwn, mae gennych fuddiant gohiriedig yn y CPLlL. Mae’r cyfandaliad grant marwolaeth sy’n daladwy yn dibynnu ar ba bryd y gadawoch chi:

  • os gadawoch ar ôl 31 Mawrth 2008 – telir pum gwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig
  • os gadawoch cyn 1 Ebrill 2008 – telir tair gwaith eich pensiwn blynyddol gohiriedig

Fodd bynnag, os gadawoch gyda buddion gohiriedig a marw cyn eu derbyn a’ch bod hefyd yn aelod gweithredol o’r CPLlL pan fyddwch yn marw, y grant marwolaeth sy’n daladwy yw’r uchaf o’r canlynol:

  • eich grant marwolaeth gohiriedig fel y cyfrifwyd uchod, neu
  • deirgwaith eich tâl pensiynadwy tybiedig yn eich cyflogaeth actif

Os ydych yn dal mwy nag un buddiant gohiriedig yn y CPLlL telir grant marwolaeth o bob budd gohiriedig, ar yr amod nad ydych hefyd yn aelod gweithredol o'r CPLlL.

Os taloch Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) a drefnwyd drwy'r CPLlL, mae gwerth eich cronfa CGY hefyd yn daladwy.