Faint Ydwyf yn Talu?

Fel aelod actif o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, rydych yn gwneud cyfraniadau i’r cynllun. Mae'r cyfraniadau hyn yn denu gostyngiad yn y dreth y byddwch yn dalu.

Mae'r raddfa cyfrannu yr ydych yn ei thalu yn dibynnu ar eich cyflog. Mae’r bandiau cyflog o 1af o Ebrill 2024 wedi’u hamlinellu isod. Mi fydd yr amrediad cyflog ar gyfer pob band cyfraniadau yn newid bob mis Ebrill, yn unol â chostau byw:

Band

Gwir dal cyflogaeth

Prif adran

Adran 50/50

1

Hyd at £17,600

5.50%

2.75%

2

£17,601 i £27,600

5.80%

2.90%

3

£27,601 i £44,900

6.50%

3.25%

4

£44,901 i £56,800

6.80%

3.40%

5

£56,801 i £79,700

8.50%

4.25%

6

£79,701 i £112,900

9.90%

4.95%

7

£112,901 i £133,100

10.50%

5.25%

8

£133,101 i £199,700

11.40%

5.70%

9

£199,701 neu fwy

12.50%

6.25%

Mae’n ddyletswydd ar eich cyflogwr i roi gwybod i chi pa fand cyfrannu yr ydych yn ei dalu. Os ydych yn credu eich bod wedi’ch gosod yn y band anghywir, cysylltwch â’ch cyflogwr.

Cyfraniadau gan y cyflogwr

Mae eich cyflogwr yn talu balans y costau o ddarparu eich buddion yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Pob tair blynedd, bydd prisiant gan yr Actiwari yn cael ei gwblhau er mwyn cyfrifo faint ddylai eich cyflogwr fod yn ei gyfrannu at y cynllun. Gallwch ganfod faint mae eich cyflogwr yn ei dalu yma: Prisiant 2022.