Pensiwn Ar-Lein

Mae’r system Hunan Wasanaeth Aelod (HWA) yn borth diogel sy'n eich galluogi i weld gwybodaeth bersonol ac ariannol am eich pensiwn. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu:

  • Gweld a diweddaru eich manylion personol a newid cyfeiriad.
  • Cael amcangyfrif o’ch buddion pensiwn.
  • Cyfrifo’r swm o lwmp swm ychwanegol y gallwch ei gymryd wrth ymddeol.
  • Gweld hanes eich gwasanaeth, gan gynnwys unrhyw wasanaeth sydd wedi'i drosglwyddo i mewn.
  • Gweld a diweddaru manylion y buddiolwyr yr ydych wedi enwebu.
  • Gweld eich datganiadau blynyddol.
  • Anfon negeseuon diogel i Gronfa Bensiwn Gwynedd.

Sut ydw i'n cael mynediad i fy nghofnod pensiwn ar-lein?

I gael mynediad i'r system ddiogel, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru syml arlein. I gofrestru, ewch i'r wefan yma.

Er mwyn gweld fersiwn Cymraeg o'r wefan, sicrhewch fod gosodiadau iaith eich porwr wedi'i osod i'r Gymraeg.

Bydd eich cais yn cael ei e-bostio i Gronfa Bensiwn Gwynedd a byddwch yn cael allwedd actifadu. Os yw eich manylion cyswllt presennol yn cynnwys cyfeiriad e-bost, bydd dolen i gwblhau eich cofrestriad yn cael ei e-bostio i'r cyfeiriad hwn, fel arall, bydd eich allwedd actifadu yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad cartref presennol o fewn 3-5 diwrnod gwaith. Nodwch y bydd eich allwedd actifadu dros dro ddim ond yn gweithio am 30 diwrnod ar ôl iddo gael ei gynhyrchu, felly mae'n bwysig i chi gwblhau eich cofrestriad cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich allwedd actifadu.

Unwaith y byddwch wedi derbyn eich allwedd actifadu gallwch fynd ar-lein a sefydlu enw defnyddiwr a chyfrinair.

Nodwch

Eich Enw Defnyddiwr ...

  • Mae’n rhaid i’r enw defnyddiwr fod rhwng 6-30 nod o hyd. Rydym yn cynghori i chi ddefnyddio eich cyfeiriad ebost.

Eich Cyfrinair ...

  • Mae’n rhaid iddo fod yn fwy na 8 nod
  • Mae’n rhaid iddo gynnwys o leiaf un rhif ac un briflythyren.
  • Nodwch fod llythrennau mawr/bach o bwys ar gyfer y cyfrinair.

Eich Ymatebion Diogelwch ...

  • NI ddylid cynnwys unrhyw nodau arbennig (er enghraifft symbolau % neu £).
  • NI ddylid fod fwy na 30 nod o hyd.

Nodwch am resymau diogelwch nid yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn dal cofnod o'r cyfrinair a ddewiswyd gennych. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair, bydd angen i chi ei ail-osod ar y dudalen logio i mewn.

 

Sut i gofrestru