Telerau ac Amodau

Pwrpas y wefan hon yw i ddarparu gwybodaeth yn unig. Er bod ymdrech wedi ei wneud i sicrhau bod gwybodaeth hollol gywir wedi ei ddarparu ynglŷn â’r Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2008, ni ellir sicrhau na fydd gwallau yn ymddangos.

Ni all Cronfa Bensiwn Gwynedd gynnig cyngor ariannol ar unrhyw faterion pensiwn dan y Ddeddf Wasanaethau Ariannol 1986. Os ydych angen unrhyw gyngor ariannol, dylech gysylltu gydag ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Nid yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn derbyn cyfrifoldeb am golled, niwed neu anhwylustod sy’n digwydd o ganlyniad i unrhyw wall neu anghywirdeb o fewn y tudalennau hyn. Gwir Reoliadau fydd yn cael eu defnyddio mewn unrhyw ddadl ynghylch â’ch buddion pensiwn.

Lle ddarperir cysylltiadau i wefannau eraill, ar gyfer eich hwylustod chi yn unig yw hyn. Nid yw’r Gronfa yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau allanol, nac yn ardystio'r sefydliadau hyn, eu cynnyrch na’u gwasanaethau mewn unrhyw ffordd.

Mae Cronfa Bensiwn Gwynedd yn gwneud pob ymdrech i wirio ffeiliau sydd ar gael i'w llawrlwytho ar y safle am firysau. Nid yw’r Gronfa yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu niwed sy'n digwydd o ganlyniad i lawrlwytho deunydd oddi ar y wefan. Yr ydym yn argymell y dylai defnyddwyr ail-wirio pob deunydd a lawrlwythir gyda'u meddalwedd gwrth-firws eu hunain.

Mae isadeiledd TG y Cyngor yn ddarostyngedig i safonau diogelwch a gyhoeddir gan y ‘National Cyber Security Centre’.  Mae cydymffurfiaeth y Cyngor â'r safonau hyn yn orfodol ar gyfer cysylltu â'r Rhwydwaith Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn darparu ei wasanaethau.  Mae hyn yn cael ei brofi'n annibynnol yn flynyddol er mwyn sicrhau bod y safonau'n cael eu cynnal yn briodol, ac adroddir ar ganlyniadau'r profion i aseswyr Swyddfa'r Cabinet ar gyfer ardystio a sicrwydd.

Ymhellach, mae holl systemau y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys 'Altair' (a ddarperir gan 'Heywood'), 'eFinancials' (a ddarperir gan 'Advanced'), pob system ategol a modiwlau fel i-Connect, hunanwasanaeth aelodau, ac ati, wedi'u cynllunio i fod yn cydymffurfio â ‘GDPR’.