Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

1.  Sut mae fy muddion yn cael eu cyfrifo?

Bydd buddion pensiwn eich CPLlL yn seiliedig ar ddau ffactor yn unig:

  • Cyfanswm cyfnod eich aelodaeth
  • Cyfartaledd cyflog gyrfa.

Cyfrifir eich buddion pensiwn fel a ganlyn:

  • Pensiwn = Cyfartaledd cyflog eich gyrfa x aelodaeth ÷ 80
  • Lwmp Swm = 3 x pensiwn blynyddol

2.  Beth yw Cyfartaledd cyflog gyrfa?

Cyfartaledd eich cyflog wedi’i ailbrisio yn ystod cyfnod eich aelodaeth â’r CPLlL. 

Ar gyfer pob blwyddyn hyd at Fawrth 31, mae’ch cyflog yn cael ei ailbrisio yn unol â’r cynnydd mewn costau byw rhwng diwedd y flwyddyn honno a diwedd y mis pan fu i chwi orffen eich aelodaeth weithredol.   Yn eich blwyddyn olaf, ni fydd eich cyflog o 1 Ebrill yn cael ei ailbrisio. 

Bydd pob un o’r ffigyrau cyflog hyn yn cael eu hadio a’u rhannu gyda chyfanswm eich aelodaeth er mwyn cyfrifo eich cyfartaledd cyflog gyrfa. 

3.  Pe bawn i yn ymddeol yn gynnar, fydd yna ostyngiad yn fy mhensiwn? 

Mae eich pensiwn llywodraeth leol yn daladwy am oes.  Felly, pe byddwch yn ymddeol yn gynnar, disgwylir y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu am gyfnod hwy.  Felly, rydym yn darparu ar gyfer hyn drwy ostwng eich pensiwn.   

4.  Ydi hi’n bosibl i mi gael ad-daliad o fy nghyfraniadau?

Gallwch dderbyn ad-daliad o’ch cyfraniadau, llai unrhyw ddidyniadau ar gyfer trethi a chost eich ail-adfer yn Ail Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth (S2P), os: 

  • ydych yn dewis gadael y cynllun o fewn tri mis ar ôl ymaelodi, ac
  • Nad oes gennych unrhyw hawliau pensiwn CPLlL eraill.

Os ydych yn dymuno gadael y cynllun, cysylltwch a ni.  

5.  Rwyf i a fy mhartner yn byw gyda’n gilydd, fydd gan fy mhartner hawl i dderbyn unrhyw fuddion?

Gyda gweithrediad y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar ei newydd wedd ar 1 Ebrill 2008, cyflwynwyd buddion goroeswyr ar gyfer partneriaid sy’n cyd-fyw, boed hynny o wahanol ryw, neu o’r un rhyw. 

Fodd bynnag, gan fod cynllun y Cynghorwyr yn parhau i gael ei lywodraethu gan Reoliadau CPLlL 1997, ni fydd eich partner yn gymwys i dderbyn pensiwn goroeswyr.  

6.  Sut ddylwn i roi gwybod i chi am newid mewn amgylchiadau megis cyfeiriad neu statws priodasol?

Os yw eich amgylchiadau’n newid ar unrhyw amser yn ystod eich aelodaeth, dylech roi gwybod i Gronfa Bensiwn Gwynedd yn ysgrifenedig wrth gwblhau y ffurflen canlynol:  

Ffurflen Newid Mewn Amgylchiadau

Neu, fe allwch ysgrifennu atom drwy lythyr neu e-bost.   Ewch i'r rhan “Cysylltu â ni” sydd ar y wefan hon am ein manylion cyswllt.   

7.  Oes modd i’r adain bensiynau gynghori ar faterion yn ymwneud â phensiwn?

Yn gyfreithiol, ni chaiff Cronfa Bensiwn Gwynedd roi cyngor ariannol ar unrhyw faterion yn ymwneud â phensiwn, yn unol â Deddf Gwasanaethau Ariannol 1986, ond rydym ar gael i fod o gymorth gydag unrhyw ymholiadau.  Cysylltwch â ni os oes modd i ni fod o gymorth.

8.  Sut alla’i gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd?

Ewch i'r rhan Cysylltu â ni sydd ar y wefan hon am fanylion llawn o sut y gallwch gysylltu â Chronfa Bensiwn Gwynedd.

9.  Ydych chi’n ymdrin â’r Pensiwn Gwladol? 

Nid yw Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ymdrin ag unrhyw faterion sy’n ymwneud  â’r Pensiwn Gwladol.  Ar gyfer unrhyw ymholiadau,  cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7936 neu ewch ar eu gwefan https://www.gov.uk/cysylltwch-gwasanaeth-pensiwn.