Ysgariad

Fel arfer, mewn achosion ysgariad, bydd yn rhaid i chi ddatgelu pob buddiant ariannol sydd gennych i’r Llys. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi neu’ch twrnai ofyn am Werth ariannol cyfatebol eich hawliau pensiwn o Gronfa Bensiwn Gwynedd.

Wedyn, bydd y Llys yn penderfynu os yw Gorchymyn Clustnodi neu Orchymyn Rhannu pensiwn yn cael ei roi ar eich pensiwn Llywodraeth Leol.

Rhaid nodi na fydd yr un o’r Gorchmynion hyn yn cael unrhyw effaith ar unrhyw bensiwn i blentyn a fyddai’n daladwy ar ôl i  chi farw.

Gorchymyn Clustnodi      

Mae Gorchymyn Clustnodi yn rhoi hawl i’ch cyn-briod dderbyn cyfran o’ch buddiannau pan fyddwch yn ymddeol. Gall y gyfradd hon gynnwys:

  • Rhan o’ch pensiwn 
  • Rhan o’ch lwmp-swm ymddeol
  • Rhan o unrhyw lwmp-swm a delir ar ôl i chi farw 
  • Os yr ymunoch â’r cynllun pensiwn cyn 17/03/1987, gallai’r Gorchymyn Clustnodi olygu y bydd peth o’ch pensiwn yn cael ei gyfnewid am lwmp-swm ymddeol ychwanegol.

Os bydd eich cyn-briod yn ail-briodi, bydd y Gorchymyn Clustnodi yn erbyn eich pensiwn yn cael ei ddileu yn awtomatig.

Bydd y taliadau pensiwn i’ch cyn-briod yn dod i ben ar ôl i chi farw.

Gorchymyn Rhannu Pensiwn

Mewn achosion ysgariad a gychwynnwyd ar 1af Rhagfyr 2000 neu’n ddiweddarach, fe all y Llys roi Gorchymyn Rhannu Pensiwn. Bydd eich cyn-briod yn cael canran o’ch buddion pensiwn ac o’r herwydd bydd ganddi/ganddo fuddion pensiwn ar wahân i’ch buddion chi. 

Bydd y canran hwn yn cael ei dynnu o’ch pensiwn, y lwmp-swm ymddeol ac unrhyw bensiwn i’ch priod newydd pe byddech yn ail-briodi, a’i roi i’ch cyn-briod fel Credyd Pensiwn.

Fel aelod Credyd Pensiwn o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, bydd eich cyn-briod yn derbyn buddion pensiwn o oed 55 gyda gostyngiad neu oed ymddeol y wladwriaeth heb ostyngiad (oni bai eu bod yn dioddef o waeledd difrifol) a bydd y pensiwn yn daladwy am oes. Yn ogystal, bydd gan eich cyn-briod hawl, pe byddai’n dymuno, i drosglwyddo’r Credyd Pensiwn hwn i bensiwn arall nad yw’n rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

A fyddech gystal â chysylltu a ni yn ysgrifenedig os byddwch angen cyfrifo Gwerth Ariannol Cyfatebol eich hawliau pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer achos ysgariad.