Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol

Gelwir yr opsiwn hwn yn Gyfraniadau Pensiwn Ychwanegol (CPY). Gallwch brynu pensiwn ychwanegol drwy dalu CPY yn rheolaidd, dros gyfnod o amser , neu gallwch brynu pensiwn ychwanegol trwy dalu lwmp swm unwaith ac am byth . Ar 1 Ebrill 2014, rhoddwyd cap o £6,500 y flwyddyn er mwyn cyfyngu faint o bensiwn blynyddol y gallwch ei brynu yn y CPLlL. Mae’r cap hwn wedi cynyddu gyda chwyddiant bob blwyddyn ers hynny. Dangosir y cap cyfredol ar y cyfrifiannell CPY ar-lein

Mae'r opsiwn hwn yn disodli'r opsiwn Cyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol a oedd ar gael rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2014.

Ni allwch brynu buddion ar gyfer eichn dibynyddion o dan yr opsiwn yma.

Gallwch ddechrau contract ar unrhyw adeg sy'n addas i chi a bydd y tymor taliad yn nifer cyflawn o flynyddoedd oni bai eich bod yn dewis yr opsiwn lwmp swm unwaith ac am byth.

Bydd y swm y mae'n ei gostio yn dibynnu ar faint o bensiwn ychwanegol yr ydych am ei brynu, yr oedran y byddwch yn dechrau talu cyfraniadau ychwanegol a faint o amser yr ydych am eu talu.

Bydd y gost o brynu CPY yn seiliedig ar eich oedran, rhyw a'r cyfnod talu rydych wedi dewis a bydd yn cael ei gyfrifo yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Adran Actwari’r Llywodraeth (GAD).

Ar ymddeoliad, bydd cyfanswm y prif fuddion pensiwn y cynllun a ddyfernir yn cael ei gynyddu gan y swm o bensiwn ychwanegol yr ydych wedi prynu o dan y contract CPY.

Os ydych yn dymuno derbyn dyfynbris ar yr opsiwn hwn cliciwch yma i weld y gyfrifianell CPY (Saesneg yn unig).

Rhai pethau pwysig i’w nodi:

Mae’n bosib na fydd y cyfraniad y byddwch yn penderfynu ei dalu yn aros yr un fath. Efallai y bydd Adran Actwari’r Llywodraeth yn penderfynu bod angen newid y cyfraddau yn y dyfodol. Os yw hyn yn wir, bydd angen i chi dalu’r cyfraddau wedi’u hadolygu (bydd gennych yr opsiwn o roi’r gorau i dalu).

Os fyddwch yn penderfynu ymddeol ac yn cymryd y buddion cyn eich oedran pensiwn arferol , bydd y CPY ydych wedi prynu yn dioddef gostyngiad actiwarïaid yn unol â'r canllawiau ar ymddeol yn gynnar.

Os byddwch yn penderfynu ymddeol ar ôl eich oedran pensiwn arferol, bydd y CPY yn cael eu cynyddu yn unol â'r canllawiau ymddeoliad hwyr.

Gallwch roi'r gorau i dalu cyfraniadau ychwanegol , a dylech roi gwybod i’ch cyflogwr a'r Adain Bensiynau am y  penderfyniad hwnnw. Yna, bydd eich cofnod yn cael ei gredydu gyda’r swm o bensiwn ychwanegol yr ydych wedi'i brynu hyd at y dyddiad pan roesoch y gorau i dalu.

Unwaith y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu , bydd y pensiwn ychwanegol yn cael ei gynyddu bob Ebrill gan gyfeirio at y mynegai chwyddiant priodol.

Os byddwch yn gadael Cronfa Bensiwn Gwynedd i fynd i'r gronfa bensiwn CPLlL arall ac yn trosglwyddo eich prif hawliau pensiwn cynllun, gallwch hefyd drosglwyddo'r CPY. Dylech gysylltu ag adran bensiynau a chyflogres eich cyflogwr newydd cyn gynted ag y bo modd , er mwyn osgoi toriad mewn cyfraniadau